Cais Celtaidd am gystadleuaeth?
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi galw ar wleidyddion yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon i gefnogi cais Celtaidd i gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yn y dyfodol.
Roedd Ken Skates, AC De Clwyd, yn siarad mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Seneddol Wyddelig yn Nulyn.
Dywedodd Mr Skates y gallai'r budd i economi Cymru o gyd-gynnal y bencampwriaeth yn arwyddocaol iawn.
Roedd Prif Weinidog Iwerddon yn y digwyddiad, ac ychwanegodd Mr Skates y dylai Llywodraeth Cymru uno gyda Senedd yr Alban a Llywodraethau Iwerddon er mwyn ystyried y posibilrwydd o wneud cais.
'Sylwadau calonogol'
Dywedodd Mr Skates: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi yn ei raglen lywodraethol i weithio gyda ffederasiynau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod mwy o ddigwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol.
"Mae'r posibilrwydd o gais Celtaidd ar y cyd i gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop wedi cael ei drafod sawl gwaith yn y gorffennol, ac mae UEFA (corff rheoli pêl-droed Ewrop) wedi gwneud sylwadau calonogol am y posibilrwydd o gais ar y cyd rhwng Cymru a naill ai'r Alban neu Iwerddon.
"Rwy'n galw am ymdrech wleidyddol unedig i ystyried y posibilrwydd o wneud cais o'r fath, a dichonolrwydd cynnal cystadleuaeth lwyddiannus o'r fath.
"Bydd Pencampwriaeth Ewrop yn newid i fod yn gystadleuaeth i 24 tîm cyn bo hir, felly cais ar y cyd yw'r unig ffordd ymlaen i wledydd o'n maint ni.
"Mae'n gyfnod ariannol anodd, ond dylai ystyried cais ar y cyd gyda Chymdeithasau Pêl-droed Celtaidd eraill yn 2024 neu 2028 fod yn rhan o'n gweledigaeth tymor hir.
"Gallai'r budd i'r agenda byw yn iach yng Nghymru, yr hwb i dwristiaeth a'r effaith ar yr economi yn ehangach fod yn sylweddol iawn.
"O'r trafodaethau yr wyf eisoes wedi eu cael gyda chydweithwyr yn yr Alban ac Iwerddon, mae llawer o ddiddordeb a chefnogaeth yna i weld beth allan gyflawni."
Wrth ateb cwestiwn gan Mr Skates, dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon Iwerddon, Leol Varadkar TD, bod llywodraeth Iwerddon yn gefnogol o edrych ar y posibilrwydd o wneud cais, ac y byddai'n mynd at Gymdeithas Pêl-droed Iwerddon i drafod y mater.