Galw am addysgu diogelwch haul gwell mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai ysgolion fod gyda mwy o lefydd cysgodol ac addysg well am beryglon yr haul yn ôl pwyllgor o aelodau'r cynulliad.
Mae Pwyllgor Plant a Phobol Ifanc y Cynulliad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwell cysgodfannau mewn ysgolion newydd, neu ysgolion sy'n cael eu moderneiddio.
Ond fe wnaeth y pwyllgor wrthod galwadau gan elusen canser Tenovus ar gyfer darparu hylif haul am ddim i blant o dan 11 oed.
Bu'r pwyllgor yn trafod peryglon yr haul i ddisgyblion ar ôl i'r elusen gyflwyno deiseb gyda dros 9,000 o enwau arni.
Roedd yr elusen wedi cynnal ymgyrch oedd yn galw ar y llywodraeth i ddarparu hylif haul am ddim i blant ifanc yn y gobaith o atal "cynnydd brawychus" o ganser y croen yng Nghymru.
Eu dadl oedd bod hi'n angenrheidiol gan fod ymchwil yn dangos bod llosg haul ymhlith plant yn gallu dyblu'r perygl o ddiodde' canser y croen yn ddiweddarach yn eich oes.
Ymwybyddiaeth
Ond dywedodd y pwyllgor bod pethau eraill yn gallu cael eu gwneud i wella diogelwch haul ymhlith disgyblion heb fod angen darparu hylif haul am ddim.
Mae'r pwyllgor yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar gyfer llefydd cysgodol mewn ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu moderneiddio.
Dywed hefyd y dylai sylw gael ei roi i wisg ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu gorchudd derbyniol i blant.
Mae'n dweud hefyd y dylai'r llywodraeth godi ymwybyddiaeth o gyngor presennol Ymchwil Canser sy'n cael ei roi i ysgolion am gadw plant allan o'r haul.
Fe wnaeth Christine Chapman, Cadeirydd y Pwyllgor, groesawu gwaith Tenovus i godi ymwybyddiaeth am y mater.
"Yr hyn glywodd y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad oedd bod gwarchod pobl o effeithiau llygredd haul yn fwy i'w wneud gydag addysg a darparu gwybodaeth," meddai.
"Rydym yn credu bod polisïau a chanllawiau fel y nodwyd gan gynllun SunSmart Ymchwil Canser yn ddigonol ond bod angen gwell hyrwyddo a monitro i sicrhau eu bod yn wybodaeth llawer mwy cyffredin a'i fod yn cael ei weithredu'n gyson."
Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd Dr Richard Williams, cadeirydd Cyngor Dermatoleg Cymru, ei fod yn credu bod mwy o gysgod, dillad arbennig fel capiau, hetiau a gwell addysg yn bwysig i atal plant rhag cael eu niweidio gan yr haul.
"Mae'n amlwg o arsylwi syml bod 'na ddiffyg cysodfannau mewn ysgolion ac mae plant yn aml iawn i'w gweld yn yr haul heb ddillad addas," meddai.
Dywedodd Dr Ian Lewis, o Tenovus, eu bod yn falch o weld nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymchwiliad yn rhan o'r argymhellion.
Ac fe ychwanegodd William Powell, cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad, bod ACau yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod diogelwch haul ymhlith yr ifanc yn cael mwy o sylw o ganlyniad i ddeiseb Tenovus.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad.