Mewn Llun: Y Fflam Olympaidd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Kelvin Perrett yn cario'r Fflam dros Bont Mynwy i mewn i Drefynwy

Y dyrfa yn paratoi yng nghanol Trefynwy i groesawu'r Fflam Olympaidd i Gymru

Y gusan gyntaf yng Nghymru wrth i Gareth John drosglwyddo'r fflam i l Robyn Tyler yn Nhrefynwy

Hazel Cave-Browne-Cave yn cario'r Fflam rhwng Trefynwy a Rhaglan ddydd Gwener

Lyn Hull gyda'r Fflam rhwng Y Fenni a Brynmawr ddydd Gwener

Sean Lewis, a wnaeth sefyll arholiad ffiseg Lefel A bore Gwener cyn rhedeg, yn derbyn y fflam gan Dorothy Turner yn Y Fenni

James Edwards oedd un o'r rhai fu'n cludo'r Fflam ym Mrynmawr

Roedd y brwdfrydedd yn amlwg ar wyneb Nadine Struijk wrth iddi deithio drwy Frynmawr ddydd Gwener

Ellie Coster gyda'r Fflam ar fin gadael Y Pwll Mawr ym Mlaenafon