Pryder busnesau pentref ym Mhowys am gau ffordd allweddol

  • Cyhoeddwyd
Gwaith ffordd (generic)
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor nad yw gwneud dim yn opsiwn

Mae busnesau a thrigolion mewn pentref ym Mhowys yn dweud eu bod yn wynebu haf anodd oherwydd y bydd y brif ffordd i dwristiaid ar gau.

Mae Cyngor Sir Dinbych yn cau 2.5 milltir o ffordd y B4391 ar fynyddoedd Y Berwyn i'r gogledd o Langynog am naw wythnos.

Fe fydd y ffordd yn cau ddydd Mercher wrth i wyneb newydd gael ei osod.

Ond mae trigolion yn Nyffryn Tanat yn dweud mai dyma'r brif ffordd i dwristiaid deithio i'r Bala a gogledd Cymru.

Maen nhw am i'r ffordd gael ei chadw ar agor.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn ymwybodol y bydd cau'r ffordd yn creu anghyfleustra "ond oherwydd cyflwr y ffordd o dan sylw, a'r ffaith fod arian nawr ar gael, does gan y Cyngor ddim opsiwn arall ond i gynnal y gwaith angenrheidiol hwn".

Teithio ymhellach

Mae busnesu yn Llangynog yn dweud y byddan nhw'n colli busnes.

Yn eu plith y mae perchnogion siopau, bwytai, tafarndai a llefydd gwely a brecwast a hynny yng nghyfnod prysur yr haf.

Yn ogystal fe fydd rhaid i bobl sy'n gweithio yn Y Bala deithio 100 milltir i ac o'u gwaith ar hyd yr A5 i ardal Nescliff yn hytrach na thaith 13 milltir dros y mynyddoedd.

Mae rhai cwmnïau yn pryderu y bydd hyn yn golygu mwy o amser a chynnydd mewn biliau tanwydd.

Mae 'na bryder hefyd y bydd y gwasanaethau brys yn cael trafferthion i gyrraedd pobl ar y mynyddoedd.

"Fe fydd cau'r ffordd yn cael effaith andwyol ar ein busnes," meddai Pam Williams, tafarnwraig dau o dafarndai Llangynog, The New Inn a'r Tanat Valley Inn.

"Rydym yn ddibynnol ar bobl yn gyrru heibio ac yn aros yma am fwyd.

"Yn aml iawn mae 'na ymwelwyr yn galw yma ar eu ffordd i neu o'r Bala, yn enwedig ar benwythnosau ac ar gyfer cinio Sul.

"Mae'n bosib y bydd rhaid ailfeddwl amser agor," ychwanegodd.

Dywedodd Mike Atherton perchennog lle gwely a brecwast Pen Derw a chabannau Rivers Nest yn Llangynog, na allai hyn ddigwydd ar yr amser gwaetha.

'Siomedig'

"Rydym newydd agor ein busnes gwely a brecwast ac yn edrych ymlaen at haf prysur.

"Fe fydd cau'r ffordd yn cael effaith ar bawb yn Nyffryn Tanat ac ymhellach draw am Sir Amwythig.

"Dwi'n siwr bod 'na ffordd well i wneud y gwaith na chau'r ffordd yn gyfan gwbl."

Mae'r busnesau lleol yn dweud nad oes 'na drafodaethau wedi bod gyda busnesau lleol na'r trigolion.

Dywed y busnesau mai'r wybodaeth gyntaf oedd pan aeth arwydd i fyny yng nghanol unlle ar y Berwyn.

"Rydym yn siomedig iawn gyda'r diffyg ymgynghori," meddai Trevor Foster is-Gadeirydd Cyngor Llangynog.

Dywedodd Glyn Davies, AS Trefaldwyn, ei fod yn bryderus am fusnesau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth yng ngogledd Trefaldwyn.

"Fe ddylai cynlluniau i wneud gwelliannau i ffyrdd fod yn cael eu hamserlennu ar gyfer y gaeaf," meddai.

"Dwi wedi cysylltu gyda Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn am ailystyried yr amserlen er mwyn osgoi cau'r ffordd a chael effaith negyddol ar fusnesau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod hefyd wedi ymgynghori gyda thimau priffyrdd cynghorau Gwynedd a Phowys ac wedi ymateb i unrhyw gonsyrn a godwyd drwy newid y cynlluniau ychydig.

"Rydym hefyd wedi cytuno gyda'r cynghorau ar ffyrdd i wyro traffig.

"Mae cais wedi cael ei gyflwyno i gau'r ffordd am gyfnod o naw wythnos, sef y cyfnod hiraf y byddai ei angen i gau'r ffordd, ond rydym wedi canfod ffyrdd llawer cyflymach o wneud y gwaith.

"Y gobaith yw y bydd y ffordd ynghau am gyfnod ddim hirach na phedair wythnos.

"Oherwydd cyflwr y ffordd, dydy gwneud dim ddim yn opsiwn bellach.

"Os nad ydym yn cau'r ffordd rŵan, mae'n debyg na all y ffordd oddef gaeaf caled arall.

"Os y byddai cyflwr y ffordd yn gwaethygu ymhellach, mae'n bosib y byddai angen cau'r ffordd am gyfnod llawer hirach, heb arian ar gael i fuddsoddi yn y gwaith."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol