Mewn lluniau: Ymgyrch achub y Canolbarth
- Cyhoeddwyd

Ffordd yr A487 yn Bow Street ger Aberystwyth

Tynnodd Gareth Hughes y llun yma o gartref ei gyfaill yn Nôl-y-bont. Dywedodd: "Roedd Afon Leri yn ffrwd fechan sydd bellach yn fôr."

Fe welodd Elaine Rowlands, sy'n byw ger pentref Talybont, y llifogydd drwy ganol y pentref.

Gill Clissold yng Nghapel Bangor: "Mae'r Melindwr, sy'n llifo i'r Rheidol, wedi llifo i mewn i'n gardd. Aeth i mewn i nifer o dai yn y pentref, ond yn ffodus mae'n tŷ ni ar dir uchel."

Tynnodd Chris James lun o'i gar pan oedd y llifogydd yn Aberystwyth ar eu gwaethaf.

Mae ymgyrch i achub pobl yn ardal Aberystwyth yn cael ei gynnal yn dilyn llifogydd difrifol dros nos. Mae'r llun hwn gan Penri James yn dangos Parc Carafannau Riverside yn y Llandre, tair milltir o Aberystwyth

Dyma un olygfa yn Aberystwyth gan newyddiadurwr BBC Cymru, Carl Yapp.

Cafodd y llun hwn ei dynnu gan Gary Reed o Barc Carafannau Glanlerry o'i gartref yn Y Borth.

Llun gan Paula Colley oedd yn aros ym maes carafannau Maes Bangor

Dywedodd Sam Ebenezer o Dalybont fod nifer o dai wedi eu heffeithio gan lifogydd

Llun o'r llifogydd yn Nhalybont gan Sam Ebenezer

Mae nifer o bobl yn cysgodi yn Neuadd y pentre' yn Nhalybont ar ôl i hyd at bum troedfedd o ddŵr lifo i 25 cartref.

Hofrennydd uwchben Parc Carafannau Glanlerry