Llifogydd: Cyngerdd yn codi arian
- Cyhoeddwyd
Mae cyngerdd wedi ei gynnal yn Aberystwyth er mwyn codi arian ar gyfer y rhai dioddefwyr y llifogydd diweddar.
Roedd tua 25 o grwpiau'n perfformio ddydd Sadwrn mewn gig 12 awr yn Undeb y Myfyrwyr yn y brifysgol.
Effeithiodd y llifogydd ar rannau o ogledd Ceredigion a de Gwynedd ac mae'r gwaith glanhau yn parhau ym mhentrefi Talybont, Dolybont a Llandre.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod mis o law wedi disgyn yn ardal Aberystwyth ar Fehefin 8.
Dywedodd trefnydd y gig, Bob Maycock, fod "yr ymateb wedi bod yn wych" o gofio bod y trefnu wedi dechrau ychydig dros wythnos yn ôl.
Dechreuodd y cyngerdd am hanner dydd.
Hefyd roedd sioe ffasiwn a chystadlaethau wedi eu trefnu a gemau ac ocsiwn.
Dywedodd Mr Maycock sy'n byw yn Aberystwyth: "Roeddwn yn siarad gyda ffrind sy'n berchen ar siop recordiau.
"Soniais wrtho y dylai rhywun drefnu cyngerdd i godi arian a dywedodd y dylwn i fynd ati.
"Dyna darddiad y syniad a dyma ni lai na phythefnos wedyn yn cael ein diddanu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012