Enwebu Christine James yn Archdderwydd
- Cyhoeddwyd

Enillodd hi'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2005
Yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau cyhoeddodd yr Archdderwydd Jim Parc Nest taw un enwebiad oedd wedi ei dderbyn ar gyfer swydd Archdderwydd yn ystod y cyfnod 2013-16.
"Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.
"Hi yw'r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd ac mae'n braf iawn cael cyhoeddi hynny," meddai.
Prif wobrau
"Yr hyn sy'n nodweddiadol am gysylltiad yr Eisteddfod â Sir Ddinbych yw mai yno y crewyd hanes wrth i fenywod ennill y prif wobrau llenyddol am y tro cyntaf.
"Dilys Cadwaladr enillodd y Goron yn Y Rhyl yn 1953 a Mererid Hopwood enillodd y Gadair yn Ninbych yn 2001.
"Christine hefyd yw'r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i swydd yr Archdderwydd ac mae hyn hefyd yn destun llawenhau i ni fel cenedl," meddai'r Archdderwydd Jim Parc Nest.
"Llongyfarchiadau mawr i Christine ar ei henwebiad a mawr obeithiaf y bydd hi'n eich annerch chi o'r Maen Llog yn Seremoni'r Cyhoeddi y flwyddyn nesaf."

Christine: 'Y ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i'r swydd'
Uniaith Saesneg
Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghwm Rhondda, magwyd Mrs James ar aelwyd uniaith Saesneg ac fe ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched Y Porth.
Wedyn enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'n Uwchddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ac yn byw yng Nghaerdydd.
Mae'n briod â Wyn ac yn fam i Eleri, Emyr ac Owain, ac yn fam-gu newydd sbon i Trystan Marc.
Gweithiau celf
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf mwyaf enwog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd y beirniad, Derec Llwyd Morgan, fod hwn yn "gasgliad o farddoniaeth caboledig a chyffrous".
Roedd Christine hefyd ymhlith enillwyr y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol Féile Filíochta sawl gwaith ac roedd yn fardd gwadd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.

Roedd ei chasgliad yn 'gaboledig a chyffrous' yn 2005
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002 ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.
Daw cyfnod yr Archdderwydd presennol i ben ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Caiff yr Archdderwydd newydd ei urddo yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2014 a hynny ym mis Mehefin 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011