Atyniad diweddaraf yr Amgueddfa Werin yw tŷ masnachwr o Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
O Hwlffordd y mae'r adeilad diweddaraf i'w ailgodi yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Fe fydd y tŷ bychan yn cael ei agor i'r cyhoedd yn swyddogol ddydd Llun.
Caiff ymwelwyr eu croesawu i'r tŷ wrth i actorion ail-greu defnyddio sgiliau traddodiadol i goginio'r pryd cyntaf ar yr aelwyd ers i'r adeilad gyrraedd yr Amgueddfa.
Dyma'r ail adeilad yn unig o Sir Benfro i gael ei ailadeiladu yn yr Amgueddfa wedi agor gweithdy'r crydd clocsiau o gyffiniau Ysgeifiog ger Solfach y llynedd.
Cafodd y gwaith ailadeiladu ei gofnodi'n ddiweddar gan raglen ddogfen BBC2 'Brick by Brick.
Mae'n dŷ masnachwr o oes y Tuduriaid.
'Prynu a gwerthu nwyddau'
Yn wreiddiol, cafodd y tŷ ei adeiladu â'i gefn at lethr coediog, serth y tu ôl i Heol y Cei yn Hwlffordd.
Mae'r bensaernïaeth gadarn, gyda'r seler fwaog, yn debyg i dechnegau adeiladau cestyll a fyddai wedi eu defnyddio'n aml yn nhai preifat y sir.
Mae'n debyg taw prynu a gwerthu nwyddau ddeuai drwy'r harbwr prysur fyddai'r perchennog.
Byddai'r trigolion yn byw ar y llawr ucha' mewn un ystafell gyda thân agored yn un wal ac yn cysgu mewn croglofft fechan.
Roedd tŷ bach ger y tân oedd yn gwacau i gwter y tu allan i'r adeilad.
Storfa fyddai'r seler fwaog lle cai nwyddau gwerthfawr fel grawn, gwlân, crwyn, halen, pysgod, sebon, caws neu gasgenni gwin eu cadw cyn eu gwerthu.
Mae'r tŷ wedi ei ddodrefnu gyda dodrefn replica o tua 1580.
"Rydyn ni wrth ein bodd bod Tŷ Hwlffordd ar agor i'r cyhoedd," meddai Gerallt Nash, Uwch Guradur yr amgueddfa.
"30 mlynedd yn ôl cafodd y tŷ rhyfedd ger y cei yn Hwlffordd ei ddatgymalu gan dîm o brentisiaid ifanc, ac mae'r un criw bellach wedi ailadeiladu'r tŷ yma yn Sain Ffagan.
"Mae'n ychwanegiad gwych i'r casgliad o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol sydd wedi cael eu hailgodi yma yn yr Amgueddfa.
"Gall ymwelwyr ddysgu mwy am gyd-destun hanesyddol yr adeilad hyfryd hwn a gweld sut y meistrolodd y Tuduriaid y moroedd a dychwelyd i Gymru gyda nwyddau a syniadau newydd o Ewrop a thu hwnt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012