Gŵyl flynyddol allweddol yn y calendr Cymreig
- Cyhoeddwyd
Gŵyl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail, yn ystod wythnos gyntaf fis Awst o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn yw'r Eisteddfod Genedlaethol.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg rhwng 4 ac 11 Awst 2012, yn Llandŵ, rhwng Llanilltud Fawr a'r Bont-faen.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro yn 2011 ar gyrion tref Wrecsam.
Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig.
Gellir ei disgrifio fel gŵyl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn rhan o'r ŵyl, cynhelir cyngherddau a gigs amrywiol bob nos, dramâu, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol.
Ceir manylion llawn am y cyngherddau nos ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol.
Croeso i bawb
Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu ger y Ganolfan Groeso wrth y brif fynedfa.
Beth i ddisgwyl?
Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd tua 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (149,692 yn Wrecsam yn 2011, 136,933 yng Nglyn Ebwy yn 2010 a 164,689 yn Y Bala yn 2009).
Y Pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr ŵyl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremonïau yn gallu cael eu cynnal ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener.
Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail gychwyn ar ôl y seremonïau ac yn parhau tan yr hwyr.
Pris mynediad
Mae Tocyn Diwrnod i'r Maes yn £17 i oedolion (£18 os am gadw sedd yn y Pafiliwn yn ogystal â mynediad i'r Maes), £15 i bensiynwyr, £12 i fyfyrwyr (gyda cherdyn NUS), £10 i blant 12 -18 oed a £5 i blant dan 12 oed (am ddim i blant dan 3 oed). (Prisiau 2012)
O gwmpas y Maes a thu hwnt
Os nad y cystadlu sy'n mynd â'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r Pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld â nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell Lên, Maes D (Pabell y Dysgwyr) yn ogystal â stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau, CDs a nwyddau o bob math. Ceir stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bariau yn gwerthu alcohol hefyd.
Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd gyda babanod a phlant bach ar gael ym mhabell Twf ar y Maes a thoiledau addas i bobl anabl.
Beth sy' mlaen
Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dramâu, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.
Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - Wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.
Maes C - Mae nosweithiau Maes C yn wahanol eleni, wedi eu lleoli ar Faes yr Eisteddfod gyda'r nos yn hytrach nag ar y maes carafannau. Ceir fwy o wybodaeth am y gweithgareddau nos ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol
Hanes yr Eisteddfod
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176 o dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi.
Gwahoddwyd beirdd a cherddorion o bob rhan o'r wlad i'w gastell, gan anrhydeddu'r bardd a'r cerddor gorau â chadair, traddodiad sydd wedi parhau hyd heddiw. Cynhaliwyd nifer i Eisteddfod o dan nawdd boneddigion o Gymru ar hyd y canrifoedd.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberdâr yn 1861 ac ers hynny mae wedi datblygu ac ehangu i'r ŵyl flynyddol yr ydyn ni'n ei hadnabod heddiw.
Ewch i wefan Hanes BBC Cymru i ddarganfod mwy am Orsedd y Beirdd, enillwyr prif wobrau Eisteddfodau'r gorffennol a gwybodaeth eraill.