Cyflwyno cynnig diffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae tair gwrthblaid y Cynulliad wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.
Cytunodd y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y bydden nhw'n cyflwyno'r cynnig wedi ffrae am annibyniaeth adroddiad iechyd yr Athro Marcus Longley.
Ond nid yw canlyniad unrhyw bleidlais yn orfodol - hyd yn oed pe bai'r cynnig yn llwyddo, does dim gorfodaeth ar y gweinidog i ymddiswyddo nac ar y Prif Weinidog i'w diswyddo.
Roedd honiadau fod gweision sifil ar ran Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar gynnwys yr adroddiad.
Ateb cwestiynau
Bydd y cynnig yn cael ei drafod ddydd Mercher nesa' ar adeg wedi ei chlustnodi ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ddydd Iau bydd llefarwyr iechyd y tair plaid yn annog Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad i alw ar y gweinidog, ei swyddogion a'r Athro Longley i ateb cwestiynau gerbron y pwyllgor ddydd Mercher nesa'.
Union eiriad y cynnig i'w drafod yw "Does gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddim hyder yn y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol."
'Mater difrifol'
Wrth gyflwyno'r cynnig, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: "Gresynwn ein bod wedi gorfod galw cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
"Nid oedd hwn yn benderfyniad gafodd ei wneud yn ddi-hid. Mae'n fater difrifol pan mae arweinwyr tair plaid yn dod at ei gilydd a dweud nad oes gennym hyder yng ngallu'r Gweinidog iechyd i redeg y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae Llafur yn ein hatgoffa'n gyson eu bod wedi 'ennill' yr etholiad, a bod cefnogaeth y pleidleiswyr ganddynt ond mae gan y gwrthbleidiau yr un nifer o seddau â nhw.
"Rydym yn galw arni i ymddiswyddo i bob pwrpas ac fe ddylai hi a'r Prif Weinidog ystyried o ddifri' beth yr ydym yn ei gynnig."
'Amheuaeth ac argyfwng'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies: "Mae nifer o gwestiynau pwysig yn parhau am y mater pwysig yma, yn enwedig o ystyried sylwadau'r BMA y bore 'ma.
"Mae hyn yn cadarnhau'r ymdeimlad o amheuaeth ac argyfwng sy'n amgylchynu'r Gweinidog iechyd mewn cyfnod pan mae'r Gwasanaeth Iechyd angen gonestrwydd, tryloywder ac atebolrwydd."
Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC, wedi dweud: "Mae'r gweinidog dro ar ôl tro wedi methu ateb y cwestiwn allweddol - pam y gwnaeth geisio portreadu'r adroddiad fel un annibynnol pan ei bod yn amlwg nad oedd?
"Nid yw geiriau'r awdur dan amheuaeth ond mae geiriau'r gweinidog.
"Tan iddi hi fedru rhoi ateb credadwy, does dim modd i ni gael hyder yn ei geiriau yn y dyfodol.
'Ymddiried'
"Mae angen gweinidog y gallwn ymddiried yn ei geiriau - geiriau o sylwedd nid 'sbin'.
"Ac mae dyfodol y Gwasanaeth Iechyd yn y fantol yn y fan hyn - mater difrifol dros ben."
Eisoes mae'r gweinidog wedi gwadu i Lywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar adroddiad yr Athro Longley o Brifysgol Morgannwg.
Dywedodd Mrs Griffiths na welodd hi'r adroddiad tan y fersiwn derfynol a mynnodd nad oedd ei swyddogion wedi dylanwadu arno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011