Dogfennau ar UFO's yn taflu golau ar 'Driongl Dyfed'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Archif Cenedlaethol wedi cyhoeddi'r dogfennau diweddaraf sy'n ymwneud â gwrthrychau anesboniadwy yn yr awyr neu'r UFO.
Mae yna nifer o 'X-Files' Cymreig yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew gydag adroddiadau ers yr 1950au.
Maen nhw'n cynnwys adroddiadau am awyren Luftwaffe Yr Almaen o'r Ail Ryfel Byd yn hedfan dros Y Gŵyr yn 2005, ac adroddiadau gan bobl o bob cwr o Gymru eu bod wedi gweld yr UFO.
Mae'r dogfennau yn honni y gallai dirgelwch 'Triongl Dyfed', pan welodd nifer o bobl ddynion saith troedfedd o ran taldra yn gwisgo siwtiau arian, wedi bod yn rhywun oedd yn chwarae castiau.
'Pêl rygbi'
Mae'r dogfennau diweddaraf yn canolbwyntio ar nifer o adroddiadau bod pobl wedi gweld pethau anesboniadwy yng Nghymru yng nghanol yr 1970au.
Gwelwyd yr UFO ym mhentrefi Hook, Llangwm ac Abereiddi, Sir Benfro, ar ddechrau'r 1970au.
Yn 1976 honnodd John Lewis o Glarbeston Road, Sir Benfro, ei fod wedi gweld UFO wrth hel y gwartheg godro.
Dywedodd Mr Lewis fod yr UFO yn edrych fel "pêl rygbi".
Ym mis Chwefror 1977 gwelodd plant Ysgol Gynradd Aber Llydan, Sir Benfro 'soser' ar lawr gyferbyn â'r ysgol, fel y gwnaeth plant ysgol gynradd Rhosybol, Ynys Môn.
Yn y ddau achos, trefnodd athrawon i'r plant ddarlunio'r hyn welwyd.
Mae'n amlwg eu bod i gyd wedi gweld yr un peth, a hwnnw'n debyg iawn i'r 'soser' clasurol.
Fe welodd nifer o bobl bethau rhyfedd yn yr awyr uwchben pentref Betws Gwerfyl Goch Sir Ddinbych yn 1978.
Roedd rhai'n credu bod y digwyddiadau yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn Roswell yn nhalaith New Mecsico yn yr Unol Daleithiau yn 1947 pan oedd sôn am UFO yn cwympo i'r ddaear.
Y Luftwaffe
Honnodd Rosa Granville, oedd yn rhedeg tafarn yn Aber Bach, Sir Benfro, ar y pryd, ei bod wedi dihuno yn ystod oriau mân y bore a gweld UFO a dyn yn gwisgo dillad arian.
Dywedodd Aelod Seneddol Penfro ar y pryd, Nicholas Edwards: "Rwy'n cael fy moddi gan adroddiadau bod pobl yn gweld yr UFO yn Sir Benfro".
Ond mae'r dogfennau'n datgelu bod swyddogion wnaeth ymchwilio i'r honiadau yn credu mai rhywun yn chwarae castiau oedd yn gyfrifol.
"Mae Llu Awyr Breudeth wedi derbyn adroddiadau am ddynion yn gwisgo dillad arian ond efallai ei fod yn berthnasol fod ffatri leol yn gwneud dillad tebyg ar gyfer y diwydiant olew yn Aberdaugleddau," meddai'r adroddiad.
Mae'r dogfennau hefyd yn datgelu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi derbyn dros 20 adroddiad manwl am yr UFO rhwng 1996 a 2008.
Atomfa'r Wylfa
Yn 1996 honnodd gyrrwr o'r Fflint ei fod wedi gweld gwrthrych "mawr iawn yn teithio'n gyflym ond yn ddistaw tua 20 troedfedd uwchben y ddaear".
Gwelwyd yr un gwrthrych gan bobl ar Ynys Môn a'r Waun, ger Wrecsam, yr un diwrnod.
Wedi nifer o adroddiadau gan bobl Ynys Môn eu bod wedi gweld gwrthrych anesboniadwy ger Atomfa'r Wylfa ysgrifennodd Ieuan Wyn Jones, oedd yn Aelod Seneddol Ynys Môn ar y pryd, at Weinidogion yn gofyn am esboniad.
Ond ni allai swyddogion Y Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau ai hofrennydd o safle'r Llu Awyr yn Y Fali oedd pobl wedi ei weld ai peidio.
"Mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw hofrennydd o'r Fali wedi bod yn yr awyr ar y pryd," meddai swyddogion ar y pryd.