Cwmni preifat i gyflwyno dirwyon am faw cwn a sbwriel ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Llun yn annog pobl i godi baw eu cŵn (chwith) a sigaréts (de)Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithredu polisi 'dim goddefgarwch' o ran cŵn sy'n baeddu a phobl sy'n gadael sbwriel

Mae cyngor arall yng Nghymru wedi cyflogi cwmni preifat i gyflwyno dirwyon i bobl sy'n gadael sbwriel mewn mannau cyhoeddus.

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg fe fydd staff Xfor yn gallu rhoi hysbysiad cosb benodedig o £75 heb rybudd i bobl am adael sbwriel a rhai sy'n gadael i'w cŵn faeddu a pheidio â chodi'r gwastraff a chael gwared arno'n gywir.

Dywedodd y cyngor y byddai'r cynllun prawf yn para am flwyddyn gan ddechrau ar Orffennaf 30.

Y gobaith yw "gwella glendid strydoedd, parciau, traethau a mannau cyhoeddus eraill yn sylweddol".

Mae cwmni Xfor eisoes wedi cyflwyno dros 1,000 o ddirwyon ym Mlaenau Gwent ers Hydref 2011.

'Rhannu'r incwm'

Cyngor Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio cwmni preifat i weithredu ar eu rhan i gyflwyno dirwyon i bobl sy'n gadael gwastraff a phobl sydd ddim yn codi baw cŵn.

Y llynedd cyflwynodd Cyngor Bro Morgannwg 13 hysbysiad cosb benodedig ar gyfer troseddau sy'n ymwneud â chŵn yn baeddu.

Dywedodd Rob Curtis, aelod cabinet cyngor Bro Morgannwg, sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd a Gwasanaethau Gweladwy, fod y polisi "dim goddefgarwch" newydd yn golygu y byddai staff Xfor yn gweithio ar nosweithiau ac ar benwythnosau.

"Rwy'n gwybod bod y mwyafrif o drigolion Bro Morgannwg yn cefnogi'r polisi newydd.

"Dim ond troseddwyr nad ydyn nhw'n codi baw eu cŵn, y rhai sy'n gadael sbwriel a'r rhai sy'n taflu sigaréts ar y strydoedd, ddylai ofni'r newidiadau."

Dywedodd Mr Curtis y byddai'r arian y mae'r cyngor yn ei wario ar lanhau'r strydoedd "yn gallu cael ei wario'n well ar adfer ein ffyrdd neu atgyweirio ein hysgolion neu hyd yn oed atgyweirio ein toiledau cyhoeddus".

Bydd Cyngor Bro Morgannwg, fel Cyngor Blaenau Gwent, yn rhannu'r incwm a godwyd o'r dirwyon gyda chwmni Xfor.

Bydd Xfor yn derbyn 60% (£45) o bob hysbysiad cosb benodedig o £75.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol