Adroddiad yn cynnwys argymhellion i gau ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd yn y gogledd.
Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint.
Ond mae'r adroddiad o blaid cadw gwasanaethau mamolaeth a phlant.
Mae'n bosib y bydd unedau mân anafiadau Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun yn cau.
Pelydr-X
Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.
Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.
Mae'r bwrdd iechyd yn trafod yr adroddiad ddydd Iau cyn y bydd ynghoriad cyhoeddus yn dechrau cyn gweithredu ar unrhyw benderfyniadau terfynol.
Daw'r argymhellion ar ddiwedd adolygiad, proses oedd ar adegau yn ddadleuol iawn, a gychwynnodd yn 2009.
Mae ymgyrchwyr a gwleidyddion wedi ymateb i'r adroddiad.
Dydd Mercher fe gafodd deiseb i achub yr ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog ei chyflwyno i gadeirydd y bwrdd iechyd.
Ond cynyddu mae'r pryderon bod y frwydr wedi ei cholli er y bydd cyfnod ymgynghorol arall.
Deg ysbyty
Mae'r adroddiad yn argymell y bydd nifer o ysbytai yn ganolog i'w gwasanaeth:-
Ysbyty Penrhos Stanley;
Ysbyty Gwynedd;
Ysbyty Alltwen;
Ysbyty Cymunedol Dolgellau;
Ysbyty Llandudno;
Ysbyty Glan Clwyd;
Ysbyty Dinbych;
Ysbyty Cymunedol Treffynnon;
Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy;
Ysbyty Wrecsam Maelor.
Yn y ddogfen mae gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n golygu bydd cleifion yn rheoli eu hiechyd eu hunain gyda gweithwyr iechyd a chymunedol ynghyd â gweithwyr cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.
Bydd cleifion hefyd yn cynllunio eu gofal dewisol naill ai yn lleol neu mewn canolfannau rhagoriaeth ac fe fydd gofal brys ar gael o fewn amser diogel, ac o fewn pellter rhesymol.
Gwella safon
Nod yr adolygiad, meddai'r adroddiad, oedd gwella safon, diogelwch, dibynadwyedd a phrofiad, ynghyd â rheoli neu leihau costau yn wyneb cynnydd yn y boblogaeth.
Mae'r adroddiad wedi dweud y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i effaith y newidiadau ar yr iaith Gymraeg.
Er mwyn ceisio tawelu ofnau pobl mewn ardaloedd lle bydd gwasanaethau'n diflannu, mae'r adroddiad wedi dweud y bydd Gwasanaeth Gofal yn y Cartref yn cael ei wella a'i estyn.
Yn ogystal bydd y bwrdd yn anelu at fwy o gydweithio rhwng gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau lleol eraill.
Effaith ar ardaloedd
Fesul ardal mae'r argymhellion yn cynnwys:-
Meirionnydd - newid gwasanaethau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog a datblygu cynllun gyda Chyngor Gwynedd am fwy o integreiddio gwasanaethau yn y dref. Bydd hyn yn golygu newid gwasanaethau'r ysbyty presennol i ddarparu gwell gwasanaethau yn y gymuned. Byddai gwelyau a gwasanaeth mân anafiadau yn cael eu symud i Ysbyty Alltwen;
Gogledd Sir Ddinbych - disodli gwasanaethau Ysbyty'r Royal Alexandra yn Y Rhyl ac Ysbyty Cymunedol Prestatyn, gan ddatblygu un adnodd i gynnig gwasanaethau iechyd a chymdeithasol;
Canol a De Sir Ddinbych - disodli gwasanaethau Ysbyty Cymunedol Llangollen, gan ddatblygu canolfan adnoddau gofal gydag ystod eang o wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Bydd y ddarpariaeth o welyau yn gyfuniad o gomisiynu o'r sector gofal annibynnol a gwelyau ysbyty yn Y Waun;
Gogledd-orllewin Sir y Fflint - newid gwasanaeth yn Ysbyty'r Fflint. Bydd canolfan newydd yn cael ei datblygu gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Ysbyty Treffynnon fydd yn darparu gwelyau a gwasanaeth mân anafiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012