'Cefnogaeth lwyr' i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfarfod o Bwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd Plaid Cymru rhoddwyd "cefnogaeth lwyr yn ddiwrthwynebiad" i'w Haelod Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
Collodd chwip ei blaid ddydd Mercher am fethu mynychu'r Cynulliad a phleidleisio mewn cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Roedd o'n bresennol mewn seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd gan ei fod yn Ganghellor y Brifysgol.
Yn ystod y dydd fe wnaeth Yr Arglwydd Elis-Thomas feirniadu tactegau'r blaid.
"Dwi'n meddwl ei bod o'n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid ac i gymryd safbwynt mwy adeiladol ynglŷn â'n gwleidyddiaeth na jyst galw am bleidlais o ddiffyg hyder a bod yn gŵn bach neu'n ail feiolin i'r Ceidwadwyr," meddai ar y pryd.
"Dyna sy'n mynd o dan fy nghroen i fwya'."
'Cydwybod'
Ond mewn datganiad nos Iau dywedodd Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd: "Mae'r Pwyllgor yn gwbl ymroddedig hefyd i'r dasg o wireddu uchelgais Plaid Cymru sef symud Cymru yn ei blaen a sicrhau dyfodol mwy llewyrchus a hyderus i'n cenedl.
"Credwn hefyd y dylai materion o gydwybod bob amser gael blaenoriaeth dros rai amlbleidiol a galwn ar grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol i hyrwyddo agenda cadarnhaol."
Roedd llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud ddydd Mercher na wnaeth "aelod o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio yn y Senedd," hynny yw yn y bleidlais diffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Yn ôl y blaid, ni roddodd aelod Dwyfor Meirionnydd "reswm digonol am ei absenoldeb".
Nos Iau mewn ymateb i gefnogaeth ei blaid yn lleol dywedodd Yr Arglwydd Elis-Thomas, ei fod yn croesawu'r gefnogaeth.
"Dwi ddim yn credu bod cymryd y safbwynt wnaethon ni tuag at y gweinidog iechyd yn beth adeiladol i'w wneud ac roeddwn yn falch bod y pwyllgor etholaeth wedi dweud y dylai Plaid Cymru gael safleoliad ac agwedd fwy adeiladol yng ngwleidyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
"Dwi'n croesawu hynny yn fawr.
"Mi ddylai Plaid Cymru fod yn cynrychioli barn y bobl yn yr etholaethau y mae hi'n ei chynrychioli ac yn y rhanbarthau y mae'n ei chynrychioli yn hytrach na cheisio ffordd o danseilio llywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru.
"Does ganddo ni ddim y pleidleisiau i wneud hynny a dyna oeddwn ni'n ei feddwl oedd yn fwy nag anffodus o ran digwyddiadau'r wythnos yma."
'Athrylith'
Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud y bydd yn dadlau ei achos gerbron gwrandawiad disgyblu'r blaid.
"Byddaf yn dadlau nad oeddwn yn absennol heb reswm," meddai.
Mae Plaid Cymru wedi sefydlu panel ymchwilio a dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, nad oedd am ddweud unrhyw beth fyddai'n rhagfarnu'r canlyniad.
Mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi dweud bod rhaid aros i weld beth fyddai'n digwydd yn y broses ddisgyblu ond fod Yr Arglwydd Elis-Thomas yn "athrylith o wleidydd".
"Mae gen i barch enfawr iddo fe ac mae ganddo rôl bwysig o hyd o fewn Plaid Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012