Cytundeb rhwng prifysgol a chlwb pêl-droed ar gyfer maes hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Mae cytundeb rhwng Prifysgol Abertawe a thîm pêl-droed y ddinas yn golygu y bydd adnoddau hyfforddi o'r radd flaenaf.
Y brifysgol a'r clwb fydd yn gyd-berchnogion adnoddau fydd yn cynnwys wyth cae maint llawn.
Dydi'r clwb yn Uwchgynghrair Lloegr ddim wedi bod yn berchen ar faes hyfforddi.
Ond fe fyddan nhw'n rhentu tir yn Fairwood sy'n eiddo i'r Brifysgol.
Mae disgwyl y bydd y meysydd cyntaf yn barod erbyn mis Hydref.
Fe fydd gweddill y cynllun yn cael ei ddatblygu fesul tipyn dros y 18 mis nesaf.
Dyw'r brifysgol ddim wedi manylu ar gost y cynllun fydd yn cynnwys ystafelloedd newid ac ystafelloedd meddygol.
Cystadlaethau
Fe fydd y brifysgol yn defnyddio'r adnoddau ar gyfer cystadleuaethau a hyfforddi eu timau.
"Rydym yn hynod falch o gydweithio gyda'r brifysgol," meddai cadeirydd y clwb, Huw Jenkins.
"Ein bwriad fel clwb ydi datblygu'r adnoddau hyfforddi gorau a hynny drwy gydweithio gyda sefydliadau lleol."
Dywedodd is-ganghellor y brifysgol, Yr Athro Richard B Davies: "Rydym wedi buddsoddi £20 miliwn yn ein pentre' chwaraeon ac eisiau cynnig y profiad gorau i'n myfyrwyr."
Ym Mehefin cyhoeddodd Yr Elyrch eu bod yn adeiladu adnoddau yn Llandre ar gael o ganol mis Medi ymlaen a hynny at ddefnydd y timau ieuenctid, y tîm cyntaf a'r gymuned.
Yn y cyfamser mae'r clwb ar daith yn America.
Fe fydd eu gêm gyfeillgar gyntaf yn erbyn Colorado Rapids am 2am (amser Cymru) ddydd Mercher wedi munud o dawelwch er cof am y saethu yn Aurora yr wythnos ddiwethaf, lai na 10 milltir i ffwrdd.