Helen Jenkins yn bumed yn y triathlon
- Cyhoeddwyd
Methodd Helen Jenkins ag ennill medal yn y triathlon yn y Gemau Olympaidd fore Sadwrn.
Daeth Jenkins yn bumed yn y triathlon y tu ôl i Nicola Spririg o'r Swistir wnaeth ennill y fedal Aur, Lisa Norden o Sweden, Erin Denham o Awstralia a Sarah Groff o America.
Roedd Jenkins yn yr 11fed safle wedi'r cymal nofio ac yn y nawfed safle wedi'r cymal seiclo.
Roedd ymysg y grŵp o bump oedd yn cystadlu am y medalau tan filltir ola'r ras.
Cyflawnodd Jenkins y ras mewn amser o 2 awr ac 20 eiliad.
Diweddglo dramatig
"Mae'n flin gen i am beidio ennill medal," meddai Jenkins wedyn.
"Fe wnaeth yr holl dîm weithio'n galed ond y broblem oedd fe fethais â chyflawni digon o hyfforddiant cyn cystadlu."
Cafodd Helen Jenkins ei geni yn Elgin, Yr Alban, ond symudodd i Fro Morgannwg pan yn bedair oed.
Daeth yn bencampwr byd am yr ail dro yn 2011, gan ennill cymal Llundain a gorffen yn ail mewn tri o'r cymalau eraill yn ystod y gyfres o saith ras.
Daeth ei buddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2008 gyda diweddglo dramatig yn Vancouver i benderfynu'r enillydd.
Roedd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008, ond cafodd gystadleuaeth siomedig a gorffen yn 21ain.
Daeth hynny wedi dwy flynedd o drafferthion anafiadau.
Er ei bod yn hoff o nofio pan yn blentyn, roedd yn gwybod erbyn ei bod yn 15 oed na fyddai'n ddigon da i gystadlu'n rhyngwladol a newidiodd i'r triathlon.
Daeth llwyddiant bron yn syth wrth iddi orffen yn bumed ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 2003.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd2 Awst 2012
- Cyhoeddwyd4 Awst 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012