Yr wythfed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd

Dydd Sadwrn mae 'na nifer o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

RHWYFO:

Roedd Tom James yn aelod o griw rhwyfo pedwar heb lywiwr Prydain enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd fore Sadwrn.

James, 28 oed o Wrecsam, yw'r ail Gymro i ennill medal aur yn y Gemau yn Llundain 2012 yn dilyn Geraint Thomas oedd yn aelod o dîm seiclo Prydain enillodd fedal aur yn y ras ymlid i dimau nos Wener.

Fel Thomas fe enillodd James fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.

Curodd James, Alex Gregory, Pete Reed ac Andrew Triggs Hodge criw Awstralia enillodd y fedal arian a chriw America wnaeth ennill y fedal efydd.

TRIATHLON:

Methodd Helen Jenkins ag ennill medal yn y triathlon yn y Gemau Olympaidd fore Sadwrn.

Daeth Jenkins yn bumed yn y triathlon y tu ôl i Nicola Spririg o'r Swistir wnaeth ennill y fedal aur, Lisa Norden o Sweden, Erin Denham o Awstralia a Sarah Groff o America.

NOFIO:

Roedd Jemma Lowe yng ngharfan Tîm Merched Prydain yn y ras gyfnewid dulliau cymysg dros 100 metr nos Sadwrn, ond pan gafodd y tîm ar gyfer y rownd derfynol ei gyhoeddi, doedd dim lle i Lowe yn y pedwarawd, gan mai Ellen Gandy gafodd ei dewis ar gyfer y cymal dull pili pala.

Cyrhaeddodd Prydain y rownd derfynol mewn 3 munud 59.37 eiliad - y chweched cyflymaf o'r wyth gwlad fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol.

Ond siom gafodd y tîm yn y rownd derfynol wrth orffen yn wythfed. Yr Unol Daleithiau enillodd gan dorri'r record byd yn y broses mewn amser o 3 munud 52.05 eiliad.

Gorffennodd Lowe yn chweched yn rownd derfynol 200m dull pili pala yn y Ganolfan Campau Dŵr nos Fercher mewn 2 funud 06:80 eiliad yn dilyn ymdrech lew yn ystod 150 metr gynta'r ras.

ATHLETAU:

Roedd hi'n noson gymysg i Dai Greene a Rhys Williams yn rownd gynderfynol ras y 400m dros y clwydi yn y Stadiwm Olympaidd nos Sadwrn.

Gorffennodd Greene ei ras mewn 48.18 eiliad ond yn y pedwerdydd safle - dim ond y ddau gyntaf oedd yn sicr o'u lle yn y rownd derfynol.

Gyda Greene yn rhedeg yn y ras gyntaf o dair, roedd rhaid iddo aros i weld amseroedd y ddwy ras arall cyn gwybod a fyddai'n cyrraedd y rownd derfynol fel un o'r ddau gollwr cyflymaf.

Disgynodd y Sais Jack Green yn yr ail ras ar ôl taro yn erbyn un o'r clwydi, ac fe gafodd Rhys Williams ddiweddglo siomedig yn y drydedd ras gan orffen yn bedwerdydd.

Ond wedi i'r amseroedd gael eu mesur, fe ddaeth i'r amlwg bod Dai Greene yn mynd i fod yn cystadlu yn y rownd derfynol nos Lun fel y seithfed cyflymaf i gyrraedd y rownd honno, ac roedd y rhyddhad yn amlwg.

HWYLIO:

Roedd Hannah Mills o Gaerdydd a Saskia Clark yn ail ar ddiwedd y bedwaredd ras yng nghystadleuaeth hwylio 470 i ferched yn Weymouth ddydd Sadwrn.

Daeth Mills a Clark yn chweched yn y ras gyntaf ond enillon nhw'r ail ras ddydd Gwener i sicrhau yr oedden nhw'n dechrau'r ail ddiwrnod o rasio ar y brig.

Ond daeth Mills a Clark yn bedwaredd yn y drydydd ras ac yn chweched yn y bedwaredd ras - y ddwy yn cael eu cynnal brynhawn dydd Sadwrn.

Bydd dwy ras arall ddydd Sul cyn i'r ddwy gael diwrnod o orffwys ddydd Llun.

Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.

Bydd y ddwy'n cystadlu mewn 10 ras dros y chwe diwrnod nesaf, gan obeithio cyrraedd y rownd derfynol fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Awst 10.

HOCI:

Mae Sarah Thomas yn aelod o dîm hoci merched Prydain, ond fe gafodd y tîm ddiwrnod siomedig ddydd Sadwrn.

Fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn China wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol, ond fe fydd rhaid i'r tîm aros i glywed y canlyniadau eraill a le yn y pedwar olaf ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn China o 2-1.

PÊL-DROED:

Yn Stadiwm y Mileniwm roedd Team GB - sy'n cynnwys pum Cymro - yn herio De Korea yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth bêl-droed i ddynion, ond ofer fu'r ymgais i gyrraedd y rownd gynderfynol.

De Korea oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, ac fe aethon nhw ar y blaen dim ond i Aaron Ramsey - capten Cymru - unioni'r sgôr o'r smotyn.

Cafodd Team GB ail gic o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Daniel Sturridge, ond y tro hwn methodd Ramsey o'r smotyn ac roedd hi'n gyfartal ar yr egwyl.

Doedd dim mwy o goliau yn yr ail hanner a bu'n rhaid setlo pethau gyda chiciau o'r smotyn, gan olygu torcalon i rywun.

Roedd Ramsey a Ryan Giggs ymhlith y pedwar a sgoriodd i Team GB, ond methodd Daniel Sturridge gyda phumed ymgais y tîm, ac fe lwyddodd De Korea gyda'u pum cic nhw i fynd i'r rownd gynderfynol a dod ag ymgais Team GB am fedal Olympaidd i ben.

Hefyd gan y BBC