Gweinidog yn annog Eisteddfod fodern
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud y gallai'r Eisteddfod Genedlaethol gael rhagor o arian petai'r Brifwyl yn moderneiddio.
Awgrymodd Leighton Andrews y byddai'n hoffi i'r Brifwyl wneud mwy i ddenu pobl ddi-Gymraeg ac i gynnig profiad gwell i ymwelwyr.
Fe wnaeth y cyhoeddiad wrth i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Llandŵ ym Mro Morgannwg.
Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn cyfrannu grant o tua £500,000 bob blwyddyn.
Dywedodd y gweinidog: "Dwi'n meddwl bod rhaid i ni drafod gyda'r Eisteddfod yn y dyfodol agos i weld beth yw'r ffordd orau i ddefnyddio'r arian sy'n cael ei fuddsoddi gan y llywodraeth.
Amodau
"Felly dwi'n disgwyl sgwrsio gyda phobl yr Eisteddfod ym mis Medi i weld beth y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol.
"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig dod o hyd i fwy o arian ond mae'n bosib sicrhau fod yr Eisteddfod yn newid yn y byd modern hefyd."
Ar y Maes awgrymodd y gallai hyn gynyddu yn y dyfodol - ond gydag amodau. Er enghraifft, byddai eisiau i'r ŵyl ehangu ei hapêl y tu hwnt i siaradwyr Cymraeg.
£3.3m
Dywedodd y gallai'r trefnwyr ddysgu oddi wrth waith gwyliau eraill yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ddatblygu dros y blynyddoedd diwetha'.
Mae cyllid presennol Llywodraeth Cymru yn gyfraniad sylweddol at y £3.3m yr amcangyfrifir y mae'n ei gostio i lwyfannu'r Brifwyl bob blwyddyn.
Cyn sylwadau'r gweinidog dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts fod nifer yr ymwelwyr yn hollbwysig i lwyddiant yr ŵyl eleni.
Yn ôl Mr Roberts, fe allai ffigurau isel arwain at broblemau ariannol.
Mae'r Eisteddfod wedi gorfod gwneud nifer o doriadau yn Llandŵ, gan gynnwys cael adeiladau llai, oherwydd pwysau ariannol.
Roedd Cyngor yr Eisteddfod wedi dweud bod rhai o Eisteddfodau'r gorffennol wedi colli arian.
Ar hyn o bryd, meddai Mr Roberts, roedd y sefyllfa'n edrych yn addawol ar gyfer yr ŵyl eleni, gyda'r pwyllgor lleol wedi llwyddo i godi mwy na'u targed o £300,000.
Gwerthiant tocynnau
Ar y Post Cynta' fore Llun dywedodd Mr Roberts nad oedd yn credu bod y toriadau wedi effeithio o gwbl ar fwynhad Eisteddfodwyr.
"Dwi'n meddwl mai'r hyn 'dan ni wedi'i wneud yn fwy na dim byd ydy gwneud gwell defnydd o adnoddau'r Eisteddfod," meddai.
"Mae 'na fwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r adnoddau sy' 'ma a dwi'n credu y gallen ni wneud mwy eto yn y dyfodol."
Wrth gyfeirio at golled Prifwyl y llynedd yn Wrecsam, roedd yn cydnabod bod gwerthiant tocynnau'r cyngherddau nos wedi bod yn ffactor.
Ond dywedodd fod y Brifwyl wedi sicrhau cytundeb darlledu gyda S4C - oedd yn help mawr - ond ei bod yn dal yn bwysig denu cynulleidfaoedd i'r digwyddiadau hyn.
"Mae'n rhaid cael cynulleidfa fyw yn y Pafiliwn i wneud y rhaglen yn un gwerth chweil ar gyfer y darlledwyr," ychwanegodd.
'Breuddwyd'
Soniodd hefyd am ei "freuddwyd" o gael dau bafiliwn i hwyluso'r trefniadau wrth symud o gystadlu'r dydd i gyngherddau'r nos.
"Byddai modd rhannu'r cystadlu rhwng y ddau lwyfan wedyn, gan sicrhau bod yr adnoddau yn y ddau le gystal â'i gilydd.
"Byddai wedyn yn ein galluogi i orffen y cystadlu ychydig yn gynt er mwyn rhoi amser i'r artistiaid a'r tîm technegol baratoi yn iawn ar gyfer y cyngerdd nos."
Bydd y gweinidod yn cwrdd â swyddogion yr Eisteddfod fis nesa' i drafod dyfodol ariannol y Brifwyl.