Urddo aelodau newydd er anrhydedd i'r Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Urddo
Disgrifiad o’r llun,

Yr aelodau newydd a urddwyd er anrhydedd

Gyda'r tywydd yn braf roedd aelodau newydd yn cael eu hurddo yng Nghylch Yr Orsedd ddydd Gwener.

Mae nifer o Gymry wedi eu hanrhydeddu, sêr chwaraeon fel Shane Williams a John Hartson, cerddorion fel Wynne Evans a Linda Griffiths a rhai sy'n gweithio'n ddiflino yn eu bröydd, pobl fel Betsi Griffiths, Y Rhondda a Magwen Pugh, Cemaes.

Ond oes oedd rhai yn disgwyl gweld yr asgellwr o'r Aman neu'r gŵr sydd wedi ennill y mwya' o gapiau rygbi dros Gymru, siom a gafwyd am nad oedd Shane Williams na Stephen Jones yn bresennol.

John Hartson
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod mawr i John Hartson

Roedd dau o gewri pêl-droed Cymru yno, John Hartson ac Iwan Roberts, a'r ddau'n hynod falch o'r anrhydedd.

"Mae'n brofiad gwahanol iawn ond dwi'n falch iawn o'r anrhydedd ac mae'r teulu i gyd yma," meddai John Hartson.

"Dwi wedi bod yn gyffrous iawn hyd at heddiw ac yn ddiolchgar fy mod yn gallu siarad Cymraeg.

"Dwi wedi bod yn dilyn yr Eisteddfod ac roeddwn i yn yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl yng Nglyn Ebwy.

"Ro'n i'n gobeithio dod yma pan oedd cyfle ac mae'n ddiwrnod mas gwych i'r teulu cyfan."

Eglurodd Iwan Roberts iddo orfod meddwl am dderbyn yr anrhydedd.

'Siarad 'fo Mam'

"Doeddwn i ddim yn siŵr iawn am fy mod wedi symud o Gymru yn 17 oed," meddai.

"Ond mi wnes i siarad efo Mam a hi'n dweud bod rhaid i mi dderbyn am ei bod yn gymaint o anrhydedd.

"Dwi wrth fy modd. Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n derbyn yr anrhydedd ... job o waith oedd chwarae pêl-droed i mi a doeddwn i ddim yn meddwl cael dim fel hyn.

"Mae'n ddiwrnod mawr i mi a'r teulu ond dydi Mam ddim yma.

Iwan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Roberts: 'Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n derbyn yr anrhydedd'

"Dydi hi ddim y gyrrwr mwya' hyderus a gan ei bod yn byw yn y gogledd, mae'n saffach yn gwylio ar y teledu a gwrando ar Radio Cymru."

Un o gantorion gwerin amlyca' Cymru yw Linda Griffiths ddywedodd ei bod yn nerfus cyn y seremoni.

"Ond mae'n ddiwrnod braf a dwi'n edrych ymlaen at y seremoni.

"Yn bendant, fe fydd yn brofiad cofiadwy iawn."

Ychwanegodd y tenor Wynne Evans fod hyn yn rhywbeth go wahanol i'w wneud ar fore Gwener.

"Dwi'n licio'r Wisg Werdd," meddai'r gŵr sy'n dysgu Cymraeg.

"Doeddwn i ddim yn mynd i'r Eisteddfod pan yn blentyn ond mae'n brofiad gweddol newydd.

"Mae'r Eisteddfod mor bwysig i'r celfyddydau yng Nghymru."

'Dysgu gyrru'

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod cael ei urddo yn "fraint fawr ac yn anrhydedd mawr".

Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: 'Yn fraint fawr'

"Mae 'na bleser gweld cymaint yn cael eu hanrhydeddu gyda fi ac mae'n anrhydedd i'r teulu cyfan," meddai Carwyn Aman Ogwr.

"Yma ar y Maes roedd pawb o Ben-y-bont yn dysgu gyrru gan fod 'na hen lain glanio fan hyn a phobol yn gallu gyrru heb fecso am grashio'r car.

"Dwi wastad yn dod i'r Eisteddfod a gobeithio parhau i chwarae rhan yn yr Eisteddfod am sawl blwyddyn i ddod."

Dywedodd y DJ Huw Stephens ei fod wedi cyffroi'n llwyr.

"Dwi wedi gweld Robin McBryde, Carwyn Jones a Lisabeth Miles," meddai.

"Dwi'n synnu bod y wisg mor gyfforddus ac mae pawb mor groesawgar.

"Mae'r teulu i gyd yma a Mam a Dad yn falch iawn."

"Dwi'n gobeithio parhau i fynychu seremonïau yn y dyfodol."