Bro Morgannwg: Trefnwyr yn hapus

  • Cyhoeddwyd
Seremoni'r Orsedd
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Bro Morgannwg: Trefnwyr yn bles

Dywed trefnwyr Eisteddfod Bro Morgannwg yn Llandŵ fod y digwyddiad wedi bod yn "hwyliog, braf a phositif."

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Dylan Jones, bod Eisteddfodwyr wedi cael blas ar y Fro yn ogystal â bod yr Eisteddfod wedi rhoi blas arbennig i bobl y Fro.

"Rydan ni fel trigolion y Fro yn ddiolchgar tu hwnt i swyddogion yr Eisteddfod am eu gwaith ac am y croeso y maen nhw wedi eu rhoi i ni.

"Rydan ni wedi rhoi croeso i weddill Cymru i'r Fro ond rydan ni wedi cael croeso fel pwyllgor lleol."

Dros yr wythnos, lle welwyd galw a hindda, fe wnaeth 138,767 o bobl ymweld â'r Maes.

Ychwanegodd Mr Jones:"Fy atgofion i o'r Eisteddfod fydd yr ysbryd hwyliog, braf a phositif.

"Dwi wedi cael y pleser o drafod gyda thrigolion y Fro a'u bod nhw wedi cael agoriad llygad am yr Eisteddfod, rhai ddim yn gwybod lot am yr ŵyl.

"Maen nhw fel ninnau wedi cael modd i fyw.

"Dyna'r gwaddol fydd yma ac fe fyddwn ni'n adeiladu ar hynny yn y blynyddoedd i ddod."

Croeso

Eglurodd bod 'na bethau concrid i ddod o'r Eisteddfod gan gynnwys cofgolofn i Iolo Morgannwg a Tŷ Cadog, canolfan iaith yn Y Barri.

"Tu hwnt i'r rhain fe fydd yr ysbryd yn parhau yn yr ardal a hwnnw yn un adeiladol."

Dywedodd Rob Thomas, cyfarwyddwr datblygu Cyngor Sir Bro Morgannwg bod trigolion y fro wedi bod yn wych.

"Fel cyngor rydan ni wedi cael croeso gan yr Eisteddfod ac wedi cael croesawu cymaint i'r ardal yma.

"Rydym wedi bod yn falch iawn o ymateb pobl leol."

Dywedodd bod nifer o bobl leol wedi mynychu'r Eisteddfod am y tro cyntaf a bod o'n falch o allu denu Eisteddfodwyr i ymweld â'r Fro am y tro cyntaf.

"Mae hi wedi bod yn amser hir ers ymweliad yr Eisteddfod â'r Fro ddiwetha', gobeithio na fydd hi mor hir eto."

Fe wnaeth Prydwen Elfed Owens, Llywydd Llys yr Eisteddfod, ddiolch i Dylan Jones a'r tîm ac i'r cyngor sir am eu cefnogaeth.

"Mae hi wedi bod yn ŵyl arbennig iawn.

"Fe fydd y gwaddol yn arbennig iawn, nid yn unig yn lleol, ond hefyd o fod yn denu Eisteddfodwyr yn ôl yma."