Evans yn sicrhau medal arian yn y cylch focsio

  • Cyhoeddwyd
Fred Evans
Disgrifiad o’r llun,

Evans yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd ers 1972

Mae gan Gymru fedal arall - ond bu'n rhaid i Fred Evans o Gaerdydd fodloni ar arian yn hytrach nag aur yn y cylch focsio.

Fe wnaeth Evans, 21 oed, golli i Serik Sapiyev o Kazakhstan yn rownd derfynol cystadleuaeth pwysau welter (69kg) y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Sapiyev oedd ar y blaen o'r dechrau ac roedd yn fuddugol 17-9.

Ond bydd Evans yn falch o'i orchest wrth gyrraedd y rownd derfynol gan iddo guro prif ddetholyn y byd Taras Shelestyuk yn y rownd gynderfynol.

Dywedodd Evans wrth y BBC: "Rwyf wedi cael pedair gornest anodd a does gennyf ddim esgusodion. Roedd o'n fwy cyflym na fi a nes i ddim cadw at fy nghynllun fel y dylwn i.

"Ond fe wnes i guro pencampwr y byd o Wcráin, a dwi dal yn ifanc dim ond 21. Dwi mor falch o gyrraedd y ffeinal."

Evans yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd ers Ralph Evans yn 1972 yn Munich.

Llwyddodd Ralph Evans i gipio'r fedal efydd, a cyn heddiw honno oedd unig fedal Cymru yn y cylch focsio.

Mae medal Fred Evans yn golygu fod cystadleuwyr o Gymru wedi ennill saith medal, y cyfanswm mwyaf erioed i Gymru mewn unrhyw Gemau Olympaidd.

Llwyddodd Geraint Thomas (seiclo), Tom James (rhwyfo), Jade Jones (taekwondo) i gipio medalau aur i ychwanegu at fedalau arian Fred Evans (bocsio), Hannah Mills (hwylio) a Chris Bartley (rhwyfo) ac un fedal efydd i Sarah Thomas (hoci).

Fe wnaeth Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura McAllister, longyfarch Fred Evans a chroesawu medal arian cyntaf Cymru yn y cylch focsio.

"Mae o wedi brwydro'n wych trwy'r gystadleuaeth, ac yn 21 oed mae ganddo ddyfodol disglair o'i flaen.

"Rydym yn hynod falch o ddod o Gemau Llundain a gwneud yn well hyd yn oed na Gemau Beijing 2008.

"Rydym wedi bod yn glir i fod yn uchelgeisiol wrth geisio llwyddiant, ac rydym wedi gosod targed o rhwng chwech a 10 medal ar gyfer Gemau Llundain 2012 a Rio 2016. Gyda saith o fedalau eisoes wedi eu hennill, rydym ar y trywydd cywir."

Roedd Ms McAllister hefyd yn ffyddiog i'r dyfodol.

"Mae'r Gemau wedi rhoi cipolwg o'r hyn sydd i ddod. Oedd, fe roedd yna fedalau i athletwyr profiadol fel Geraint Thomas a Tom James.

"Ond edrychwch ar yr ystadegau. Roedd 18 o'r 30 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, ac roedd 12 o dan 23 oed.

"Fe wnaeth Jade Jones, 19 oed, sicrhau medal aur a llwyddodd Ieuan Lloyd, hefyd yn 19 oed, i gystadlu yn ffeinal dwy ras nofio.

"Mae'r ddau yn enghraifft o ddyfodol disglair i Gymru."

Dydd Sul oedd diwrnod olaf y cystadlu.

Diwedd y seremoni agoriadolFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y seremoni cloi am 9pm nos Sul

Yr hwyliwr Ben Ainslie, sydd wedi ennill pedair medal aur, fydd yn cario banner Jac yr Undeb yn y seremoni cloi.

Bydd y seremoni yn dechrau am 9pm a bydd yna 3,500 o berfformwyr yn cymryd rhan.

Dywedodd Kim Gavin, cyfarwyddwr artistic y seremoni, y bydd yr achlysur yn canolbwyntio ar 50 mlynedd o gerddoriaeth Prydain.