Bad achub newydd gwerh £2.7m i Borthdinllaen
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i fad achub newydd gwerth £2.7m gyrraedd Porthdinallaen ar ôl y daith o bencadlys y RNLI yn Poole, Dorset ddydd llun.
Dros y misoedd nesaf bydd cartref newydd yn cael ei adeiladu ar gyfer y bad achub Tamar - John D Spicer.
Bydd yn rhaid i'r defnyddiau ar ei gyfer gael eu cludo ar y môr oherwydd lleoliad yr adeilad ar glogwyn.
Dechreuodd yr hen fad achub ei wasanaeth ym 1987 ac mae wedi lansio 315 o weithiau.
'Buddiol iawn'
"Pan fydd y bad achub newydd yn dod o gwmpas y penrhyn am y tro cyntaf dwi'n gwybod y bydd pawb sydd wedi dod allan i'w gweld wedi eu syfrdanu," meddai Mike Davies, llywiwr y RNLI ym Mhorthdinllaen.
"Bydd dod â hi adref yn bendant yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa a byddaf yn falch dros ben.
"Mae'n wir yn gwch gwych a dwi'n hyderus y bydd yn fuddiol iawn i ni ac yn ein helpu i achub mwy o fywydau."
Mae gwirfoddolwyr sydd yn aelodau o griw'r bad achub wedi bod yn cael hyfforddiant ar y cwch newydd, sydd yn gyflymach na'r hen un.
Ariannwyd y bad newydd gan John Dominic Spicer, o Swydd Rydychen, a fu farw ym mis Hydref 2010.
Roedd yna gais yn ewyllys Mr Spicer yn gofyn i'r bad gael yr enw John D Spicer.
Bydd y bad yn cael ei gadw ar angorfa dros dro cyn i'r gwaith i adeiladu tŷ cychod newydd ddechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012