Heddlu'n chwilio am ferch fach 5 oed
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu eu bod yn amau bod diflaniad merch fach 5 oed yn achos o herwgipio.
Roedd April Jones yn chwarae gyda ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth, ond fe'i gwelwyd yn mynd i mewn i fan tua 7:00pm nos Lun.
Dywedodd y Ditectif Prif Uwch-Arolygydd Simon Powell o Heddlu Dyfed Powys bod yr heddlu yn "fwyfwy pryderus am ei diogelwch".
Daeth tua 200 o bobl ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth nos Lun i gynorthwyo'r chwilio am y ferch fach.
Roedd torf wedi ymgynnull yn stryd fawr y dref yn ogystal, ac mae posteri gyda llun April arnynt wedi cael eu gosod ymhobman.
Roedd April Jones yn chwarae gyda phlentyn arall ar stad Bryn Y Gog ym Machynlleth am tua 7:00pm nos Lun.
Fe'i gwelwyd gan y plentyn arall yn mynd i mewn i gerbyd tebyg i fan lliw golau neu lwyd.
Ar y pryd roedd April yn gwisgo cot borffor at ei phen-gliniau gyda ffwr llwyd o amgylch y cwfl, crys ysgol gwyn a throwsus du.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu llinell ffôn arbennig i dderbyn gwybodaeth allai fod o gymorth yn yr ymchwiliad i'r digwyddiad, sef 0300 2000 333.
'Pryderus iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Cafodd ei chipio tua 7:00pm yn stad Bryn y Gog ym Machynlleth. Roedd plentyn ifanc arall wedi gweld April yn mynd i mewn i fan lliw golau, neu gerbyd maint tebyg i fan.
"Tra bod manylion yr hyn ddigwyddodd yn aneglur ar hyn o bryd, mae'n ymddangos fod y sawl â'i chipiodd wedi gadael y safle a gyrru ffwrdd gydag April.
"Mae nifer o swyddogion heddlu a thimau arbenigol wedi gweithio drwy'r nos, yn chwilio yn fanwl, ac mae sawl posibilrwydd yn cael ei ystyried."
Ychwanegodd Ditectif Prif Uwch-Arolygydd Powell: "Cafodd April ei gweld yn chwarae ar feic ger ei chartref, ac fe'i gwelwyd yn mynd i mewn i'r hyn yr ydym yn credu oedd yn fan lliw golau, ac fe yrrodd i ffwrdd."
Dywedodd yr Arolygydd Kevin Davies fod timau o gŵn yr heddlu ac o'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ymuno yn y chwilio, a bod mannau gwirio cerbydau wedi eu sefydlu ar y ffyrdd i mewn ac allan o Fachynlleth.
Dywedodd: "Mae sôn wedi bod am fan lwyd, ac rydym yn ystyried sawl trywydd arall.
"Rydym yn chwilio'r ardal yn drylwyr. Mae popeth all gael ei wneud yn cael ei wneud.
"Yn amlwg mae'r teulu yn bryderus iawn. Rydym yn ceisio'u hysbysu am bopeth, ac mae gennym swyddog gyda nhw."
Tref fechan
Roedd cynghorydd tref Machynlleth, Michael Williams, yn un o'r rhai fu'n cynorthwyo gyda'r chwilio, a dywedodd fod y bobl leol wedi eu syfrdanu.
"Rwyf wedi byw yma ar hyd f'oes ac erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn yn digwydd o'r blaen," dywedodd.
"Gobeithio i'r nefoedd y down ni o hyd i'r ferch fach yma cyn hir.
"Mae'n dangos mewn tref fechan fel Machynlleth, pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae pawb allan yn chwilio."
Mae Anwen Morris yn gyfaill i'r teulu, a bu'n rhan o'r ymgyrch i chwilio am April.
Dywedodd: "Mae'n gymuned agos yma, ac mae'r gefnogaeth a gawsom dros nos wedi bod yn anghredadwy.
"Yr hyn sydd angen nawr yw golau dydd, ac mae angen i'r bobl yma helpu ni i chwilio yng ngolau dydd er mwyn, gobeithio, dod o hyd iddi."
Roedd Ms Morris yn annog pobl i fynd i Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi lle mae cydlynwyr yn dosbarthu mapiau a llwybrau i bobl fynd i chwilio.
Yn y cyfamser, mae swyddogion cyswllt yr heddlu yn rhoi cymorth i'r teulu wrth i'r ymchwiliad barhau.