Pier Y Mwmbwls wedi ei ddifrodi gan dân
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau tân wedi bod yn taclo fflamau ar bier y Mwmbwls yn Abertawe wedi tân yno dros nos.
Mae 'na waith adnewyddu'n digwydd ar y pier ar gost o £9.5 miliwn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle toc wedi 1am ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu'n credu y gallai'r tân fod wedi cychwyn o wreichion yn ystod y gwaith adeiladu.
Caiff gorsaf bad achub y Mwmbwls ei adnewyddu.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y pier bod y llawer pren wedi ei ddifrodi ond bod y prif strwythur yn iawn.
"Roedd y tân wedi ei gyfyngu i un ardal, y rhan lletaf ar y pen lle mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i godi gorsaf newydd i'r RNLI," meddai John Bollom.
"Y bwriad oedd gweithio o'r pen am yn ôl.
"Gyda hen bren yna gall gwreichion fod wedi bod yn mudlosgi heb i neb sylweddoli tan gewch chi wynt cryf a'r cwbl yn dod yn fyw.
"Byddwn yn ymchwilio i pam fod hyn wedi digwydd er mwyn gwneud yn siwr nad ydi hyn yn digwydd eto.
"Rydym yn ffodus na chafodd neb eu hanafu."