Rhybudd am 'ddiffyg meddygon' yng Ngwynedd a Cheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi gwrthod cynnig i godi cyllid ar gyfer meddygon teulu 1.5% am gytuno i newidiadau i'r gwasanaeth.
Yn ôl y BMA byddai'r cynigion, gan Lywodraeth Cymru yn golygu mwy o waith "ticio bocsys" i feddygon teulu sydd eisoes "o dan y dôn".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths fod y cynnig yn "un teg a rhesymol".
Mae'r BMA hefyd wedi rhybuddio y bydd 'na brinder o feddygon teulu yng Ngwynedd a Cheredigion pe bai Llywodraeth Cymru yn eu gorfodi i dderbyn y cytundeb newydd.
Yn ôl y Gymdeithas fe fydd hi'n anodd dod o hyd i feddygon i gymryd lle'r rheiny sy'n ymddeol oherwydd effaith y cytundeb ar feddygfeydd mewn ardaloedd gwledig.
Bygythiad
Dywed Dr Phil White sy'n aelod o bwyllgor meddygon teulu y BMA ac yn feddyg ym Mhorthaethwy ei fod yn gwybod am nifer o feddygfeydd yn y gogledd orllewin sy'n cael trafferth i ddenu meddygon ifanc.
Honnodd y byddai'r sefyllfa yn sicr o waethygu gyda'r cytundeb newydd.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygon teulu'r BMA, David Bailey, nad oedd y gymdeithas yn galw am godiad cyflog i feddygon ac nad oedd unrhyw fygythiad o weithredu diwydiannol.
Galwodd am "ychydig o sefydlogrwydd" i alluogi meddygon i barhau i "gynnig y gwasanaethau craidd rydym yn eu darparu ar hyn o bryd".
"Ni allwn ymgymryd mwy o waith ticio bocsys," meddai.
Daw'r rhwyg rhwng y BMA a Llywodraeth Cymru wedi iddynt fethu â chytuno ynglŷn â'r gwasanaethau fydd yn cael eu darparu fel rhan o'r cytundeb meddygon teulu ar draws y DU.
Dywedodd Dr Bailey y byddai gorfodi newidiadau yn niweidio morâl meddygon.
Ychwanegodd fod meddygon teulu yn gweithio, ar gyfartaledd, 46 awr yr wythnos am incwm ar gyfartaledd o £92,000 o'i gymharu â thua £100,000 yn Lloegr a bod tua £83,000 o gyflog meddygon teulu yng Nghymru yn cael ei dalu gan y gwasanaeth iechyd.
Mae newidiadau i'r cytundeb wedi eu hargymell gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (Nice)
Er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau maen nhw wedi ymrwymo i'w gwneud yn haws i bobl weld eu meddygon teulu gan ehangu oriau agor yn ystod y nos ac ar benwythnosau.
Nod y newidiadau hefyd yw cyflwyno mesurau newydd i wella gofal cleifion â chyflyrau cronig tymor hir ac osgoi derbyniadau brys i ysbytai.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud bod y cynnig o godi'r cyllid 1.5% yn "un teg a rhesymol am gytuno i'r newidiadau i'r cytundeb gan sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012
- Cyhoeddwyd22 Awst 2012