Cyfarfod â'r comisiynydd yn 'ddefnyddiol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Keith Towler
Disgrifiad o’r llun,

Mr Towler: Ei swyddfa'n delio â nifer o bobl oedd wedi cysylltu ers y penwythnos.

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud bod cyfarfod â Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

"... roedd yn bwysig i fi gwrdd â'r comisiynydd mor gynted â phosib i glywed ei farn am yr honiadau difrifol iawn sydd wedi dod i'r amlwg yn y diwrnodau diwethaf," meddai.

"Rydym yn benderfynol o wneud beth bynnag sydd ei angen i ddarganfod y gwirionedd."

Dywedodd fod y ddau wedi cydnabod bod rhaid i ofal plant a phobol ifanc - a lleisiau dioddefwyr - fod yn ganolog i'r ymchwiliadau.

"Rydym hefyd yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi bod o ganlyniad i argymhellion Ymchwiliad Waterhouse, yn enwedig creu Comisiynydd Plant Cymru."

Ond dywedodd Mr Towler: "Er i ni gydnabod bod datblygiadau calonogol ers Ymchwiliad Waterhouse, dwi'n credu bod gormod o gwestiynau heb eu hateb, gan gynnwys pam bod rhai dioddefwyr gyflwynodd dystiolaeth i'r ymchwiliad yn teimlo nad oedd neb wedi gwrando arnyn nhw ar y pryd."

Yn y cyfarfod dywedodd fod ei swyddfa yn delio â nifer o bobl oedd wedi cysylltu â nhw ers y penwythnos.

'Camau priodol'

"Manylais ar sut y byddwn i'n cysylltu â'r Swyddfa Gartref er mwyn darganfod beth fydd amodau gorchwyl yr ymchwiliadau a beth yn union fydd rôl fy swyddfa."

Dywedodd Mr Jones: "Mae swyddfa'r Comisiynydd yn hollol annibynnol, a dyna pam dwi'n annog unrhyw un gyda gwybodaeth berthnasol neu bryderon i gysylltu â Keith a'i dîm," meddai Mr Jones.

"Byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos gyda Keith dros y diwrnodau ac wythnosau nesaf er mwyn i ni cytuno'r camau priodol nesaf."

Yr un diwrnod roedd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn cwrdd â dyn sydd wedi honni bod aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol wedi ei gam-drin yn ystod cyfnod Thatcher.

Roedd Steve Messham wedi honni na wnaeth Adroddiad Waterhouse drafod mwyafrif yr achosion honedig yng ngogledd Cymru.

'Sicrwydd'

Mae wedi honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yng nghartref gofal Bryn Estyn.

Dywedodd Mr Jones: " ... dwi'n gobeithio iddo gael sicrwydd oherwydd ymateb y llywodraeth ...

"Mae wedi croesawu bod Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Droseddau, Keith Bristow, yn arwain adolygu ymchwiliad yr heddlu a'r bwriad i ymchwilio i honiadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn y gogledd.

"Ac mae'r ymchwiliadau'n tanlinellu ymroddiad y llywodraeth i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu dioddefwyr - ac ymchwilio i'r honiadau ofnadwy'n drylwyr."

Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cam-drin neu sydd angen help gysylltu â'r NSPCC ar 0808 800 500 neu gysylltu â'r heddlu ar 101.