C&A: Sgandal camdrin Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi gorchymyn ymchwiliad o'r newydd i'r honiadau o gam-drin plant mewn cartref i blant yng ngogledd Cymru yn y 1970au a'r 1980au.
Fe ddaw hyn ar ôl i ddyn a gafodd ei gam-drin yn rhywiol fel plentyn tra mewn gofal yng Nghymru ddweud wrth raglen Newsnight y BBC bod Ymchwiliad Waterhouse wedi methu datgelu gwir faint y sgandal.
Cyhoeddodd yr ymchwiliad o dan gadeiryddiaeth Syr Ronald Waterhouse adroddiad i'r sgandal yn 2000, Ar Goll mewn Gofal.
Beth oedd yr honiadau gwreiddiol?
Rhwng 1974 a 1990, roedd 'na achosion brawychus o gam-drin yn cymryd lle mewn cartrefi plant yng Ngogledd Cymru. Cam-drin plant bregus a oedd i fod i gael gofal gan y rhai oedd yn hytrach yn eu camdrin.
Roedd y gamdriniaeth ar ffurf rhywiol, corfforol a meddyliol gan staff y cartrefi. Honnir hefyd i'r plant gael eu cam-drin gan bobl y tu allan i'r system ofal. Mae dioddefwyr hefyd wedi siarad am gael eu cymryd o'r cartrefi i ymweld â chamdrinwyr nad oedd yn cael eu cyflogi gan y system ofal.
Roedd 'na gwynion am tua 40 o gartrefi ar draws y gogledd gyda'r mwya' difrifol yn canolbwyntio ar saith.
Pa ymchwiliadau sydd eisoes wedi eu gwneud ?
Roedd ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn 1991 i honiadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn ardaloedd yr hen siroedd Clwyd a Gwynedd wedi gwybodaeth gan weithiwr cymdeithasol o Wynedd.
Daeth cyfanswm o 150 o gyn-drigolion y cartrefi ymlaen yn honni eu bod yn ddioddefwyr.
Ym mis Mawrth 1994 fe wnaeth Cyngor Sir Clwyd gomisiynu ymchwiliad annibynnol i'r honiadau o gam-driniaeth eang ar draws y gogledd. Ond chafodd yr adroddiad erioed ei gyhoeddi ac fe ddinistrwyd y copiau oherwydd pryderon cyfreithiol eu bod yn cynnwys gwybodaeth allai ddifrio unigolion.
Yn sgil hyn a phwysau cynyddol gan y cyhoedd yn 1996 fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, William Hague, orchymyn ymchwiliad i'r cannoedd o honiadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn hen siroedd Clwyd a Gwynedd rhwng 1974 a 1990.
Syr Ronald Waterhouse oedd yn arwain Ymchwiliad Waterhouse a oedd yn canolbwyntio ar achosion eang o gam-drin o fewn y system ofal yng ngogledd Cymru. Clywodd dystiolaeth gan dros 650 o bobl ac fe gymerodd bron i dair blynedd i gyhoeddi'r adroddiad, Ar Goll mewn Gofal (Lost in Care), dolen allanol yn 2000.
Beth oedd casgliadau Adroddiad Ymchwiliad Waterhouse?
Fe wnaeth Syr Ronald 72 o argymhellion o ganlyniad i'w ymchwiliad.
Roedd y rhain yn cynnwys creu Comisiynydd Plant, ac wrth benodi Peter Clarke yn 2001 yn Gomisiynydd Plant Cymru, fo oedd y cyntaf yn y DU. Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai awdurdodau benodi Swyddog Cwynion Plant, caniatau i weithwyr cymdeithasol ymweld â'r plant yn eu gofal bob wyth wythnos ac adolygiad cenedlaethol o'r angen a chostau gwasanaethau plant. Roedd argymhelliad hefyd ynglyn â chyflwyno trefn lle gallai cydweithwyr ddatgelu camarfer - whistle-blowing.
Hefyd fe wnaeth tîm cyfreithiol yr ymchwiliad grybwyll "ffigwr blaenllaw ym myd cyhoeddus" oedd yn ymwneud ag achosion o gam-drin. Ond dywed y tîm cyfreithiol nad oedd yna dystiolaeth sylweddol i gefnogi'r honiadau.
Roedd datganiadau i'r ymchwiliad yn enwi dros 80 o gam-drinwyr, nifer a oedd yn weithwyr gofal neu athrawon.
A gafodd unrhyw un eu cael yn euog o gam-drin?
Fe wnaeth ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru arwain at achosion llys a dedfrydu unigolion. Mae'r rhain yn cynnwys Peter Howarth, cyn-ddirprwy bennaeth cartref plant Bryn Estyn ger Wrecsam. Cafodd ei garcharu yn 1994 am 10 mlynedd am gam-drin bechgyn ifanc yn rhywiol. Bu farw yn y carchar.
Un arall o uwch-swyddogion y cartref oedd Stephen Norris. Plediodd yn euog ym mis Tachwedd 1993 i dri chyhuddiad o fwrgleriaeth, ceisio bwrgleriaeth a thri chyhuddiad o ymosod oedd yn ymwneud â thri cyn-fechgyn Bryn Estyn. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd.
Beth arweiniodd at yr ymchwiliad neywdd? Pam nawr?
Mae 'na bryderon wedi dod i'r amlwg na chafodd yr holl dystiolaeth oedd ar gael wedi ei glywed gan Ymchwiliad Waterhouse. Dywed dioddefwyr bod ffiniau'r ymchwiliad yn rhy gul ac nad oedd wedi clywed tystiolaeth gan blant oedd yn cael eu cymryd o'r cartrefi i ymweld â chamdrinwyr.
Dywed Keith Gregory, cynghorydd gyda Chyngor Sir Wrecsam ac un sy'n honni iddo gael ei gam-drin ym Mryn Estyn gan staff yn y 1970au a gan eraill yn y gymuned leol, bod enwau nifer o gam-drinwyr wedi eu rhoi i'r ymchwiliad ond eu bod wedi eu gadael allan o'r adroddiad terfynol "oherwydd eu bod â diddordeb yn y gweithwyr gofal a staff bryn Estyn yn unig".
Dywedodd bod y rhai oedd yn cam-drin yn cynnwys ASau, cyfreithwyr, barnwyr, cyfarwyddwr ffatri, siopwyr a swyddogion heddlu.
Mae Steve Messham, un o'r rhai gafodd eu cam-drin, yn honni bod rhywrai wedi dweud wrtho na allai fynd i fanylion llawn am y gamdriniaeth yn yr ymchwiliad am y camdrinwyr a'i fod i adael "30% o'r wybodaeth allan".
Mae Rhif 10 Downing Street yn dweud bod yr honiadau diweddara mor ddifrifol bod rhaid cynnal "ymchwiliad llawn a thrylwyr".
Credir o fewn y llywodraeth bod sgandal Jimmy Savile wedi gwneud hi'n orfodol nad ydi gwleidyddion yn cael eu gweld yn llusgo'u traed.
Mae'r ffaith bod honiadau am gysylltiad un o uwch-swyddogion llywodraeth Margaret Thatcher gyda'r sgandal hefyd wedi rhoi pwysau ar y llywodraeth i osgoi cyhuddiadau o gelu'r gwirionedd. .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012