Bristow i arwain ymchwiliad cam-drin
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cartre' Theresa May wedi cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn ag ymchwiliad i honiadau o gamdrin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd mai Keith Bristow, Pennaeth yr Asiantaeth Droseddau, fyddai'n arwain ymchwiliad i'r modd y deliodd yr heddlu gyda'r honiadau.
Y barnwr Uchel Lys, Mrs Ustus Macur, fydd yn arwain yr adolygiad o Ymchwiliad Waterhouse i honiadau am gam-drin rhywiol yn y gogledd.
"Mae'r llywodraeth yn trin yr honiadau hyn yn ddifrifol tu hwnt," meddai Ms May.
"Ac mae cam-drin plant yn drosedd atgas a ffiaidd, a ddylen ni ddim gadael i'r cwestiynau hyn fynd heb eu hateb ac rwyf felly'n annog unrhyw un â gwybodaeth am yr honiadau i gysylltu â'r heddlu.
Ebrill 2013
Cadarnhaodd Ms May fod Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Mark Polin, wedi gofyn i Mr Bristow asesu'r honiadau diweddara' ac i adolygu ymchwiliadau gwreiddiol yr heddlu yn ogystal ag ymchwilio i unrhyw honiadau newydd am gam-drin mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
"Bydd Mr Bristow yn cyflwyno adroddiad cychwynnol, yn adolygu'r ymchwiliadau gwreiddiol ac unrhyw honiadau newydd erbyn mis Ebrill 2013," meddai Ms May.
"Rwyf wedi ei gwneud yn glir i Mark Polin a Keith Bristow fod y Swyddfa Gartre' yn barod i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol."
Ddydd Llun fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, David Cameron, y byddai'n edrych eto ar ymchwiliad Waterhouse 12 mlynedd yn ôl i'r achosion o gamdrin yn y 1970au a'r 80au.
Ymchwiliad arall?
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru, Owen Smith AS: "Er y bydd yr honiadau newydd yma'n dod ag atgofion poenus iawn yn ôl i nifer yng Nghymru, mae'n iawn i Lywodraeth y DU wrando o ddifri ar yr honiadau a symud yn gyflym i asesu'r effaith.
"Wrth wneud, fe ddylen nhw ystyried a ddylai'r heddlu gynnal ymchwiliad o'r newydd, ac efallai cael llu arall oedd ddim yn rhan o'r holl beth ...
"Yn ogystal, efallai y dylid ystyried comisiynu ymchwiliad ehangach i gydlynu neu gyflwyno asesiad cyffredinol o broblemau cam-drin plant yn y gorffennol mewn amryw o sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn ystyried neu'n cynnal eu hadolygiadau eu hunain."
Cafodd sylwadau Mr Smith eu hategu gan nifer o Aelodau Seneddol eraill.
Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cam-drin neu sydd angen cymorth ynglŷn â'r materion hyn gysylltu â'r NSPCC ar 0808 800 500 neu gysylltu â'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012