Winston Roddick yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Winston Roddick QCFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Winston Roddick oedd Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru

Winston Roddick ydi Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Gogledd Cymru.

Cafodd y bargyfreithiwr a chyn uwch ymgynghorydd cyfreithiol i'r Cynulliad ei ethol cyn pedwar ymgeisydd arall wedi'r cyfri yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah.

Y comisiynwyr sy'n gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.

Llwyddodd Mr Roddick i drechu Tal Michael o'r Blaid Lafur yn yr ail rownd gyda mwyafrif o 8,560.

Mr Roddick ydi un o brif fargyfreithwyr Cymru a Chwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru, yr ymgynghorydd cyfreithiol ucha' yn y Cynulliad.

Plismon

Cychwynnodd ei yrfa yn blismon ar strydoedd Lerpwl cyn dod yn fargyfreithiwr yng Nghymru a Llundain.

Bu'n Gofiadur Llys y Goron yng Nghaernarfon, Yr Wyddgrug a Chaer. Yn ddiweddar, ymddiswyddodd fel Cofiadur Anrhydeddus yng Nghaernarfon.

Roedd wedi dweud bod rhaid i'r comisiynydd weithredu'n annibynnol ar unrhyw ddylanwad gwleidyddol.

Wedi'r fuddugoliaeth dywedodd ei fod yn ymwybodol "o'r sialens fawr" oedd o'i flaen.

"Dwi'n gobeithio fy mod yn barod am yr her a chael cymorth y rhai sydd â diddordeb yn y maes," meddai.

"Dwi'n gwneud addewid personol y byddaf yn ymroi i'r sialensau a gwneud fy ngorau ...i wneud yn siwr bod pobl gogledd Cymru yn cael y gwasanaeth heddlu maen nhw'n ei haeddu."

Cydweithio

Roedd Mr Michael yn gyn-brif weithredwr Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd ei dad, Alun Michael, yn sefyll am yr un swydd yn Ne Cymru, lle enillodd.

Mae Richard Eccles, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli swyddogion yr heddlu, wedi ysgrifennu at Mr Roddick yn gofyn iddo amlinellu ei gynlluniau.

"Rydym eisiau gweld y Comisiynydd newydd cyn-gynted â phosib ac rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio â fo.

"Mae'n cymryd yr awennau ar adeg allweddol i blismona.

"Mae toriadau 20% y llywodraeth yn dechrau dwyn ffrwyth ac mae'n cael effaith ar wasanaeth rheng flaen."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol