Ethol Christopher Salmon fel Comisiynydd Dyfed Powys

  • Cyhoeddwyd
Christopher SalmonFfynhonnell y llun, christopher salmon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher Salmon am bedair blynedd yn y fyddin

Christopher Salmon ydi Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Dyfed Powys.

Trechodd yr ymgeisydd Llafur Christine Gwyther wedi'r cyfri yn Abergwaun.

Y comisiynwyr sy'n gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.

Enillodd Mr Salmon gyda mwyafrif o 1,114.

Roedd hi'n ras rhwng ymgeisydd y Blaid Lafur ac ymgeisydd y Blaid Geidwadol.

Daw Mr Salmon o gefndir ffermio yn Llanandras ym Mhowys.

Wedi iddo ymuno â'r fyddin yn 2003 bu'n gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Kosovo ac Irac cyn gadael a gweithio ym myd busnes.

Cafodd Ms Gwyther, cyn Aelod Cynulliad, ei geni yn Noc Penfro a gweithiodd fel swyddog datblygu Cyngor Sir Benfro cyn troi i fyd gwleidyddiaeth.

Bu'n Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng 1999 a 2007. Hi oedd Gweinidog Amaeth cyntaf Cymru.

Ffynhonnell y llun, Labour
Disgrifiad o’r llun,

Christine Gwyther oedd gwrthwynebydd Mr Salmon

"Braint o'r fwyaf yw cael fy ethol yn gomisiynydd cyntaf Dyfed-Powys," meddai Mr Salmon.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am ffydd y bobol ynof i.

"Mae sawl her o'n blaenau yn y blynyddoedd sydd i ddod ond rwy'n benderfynol y gallwn fod yn gryfach, yn llai gwastraffus ac yn well.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda menywod a dynion gwych yr heddlu, y sector gwirfoddol a rhannau eraill o'r llywodraeth.

"Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu'n newid pwysig i'n llywodraeth leol.

"Fel pob newid o'r fath, maen nhw hefyd yn ddadleuol.

"I'r rhai sy'n dal ag amheuon, rwy'n dweud hyn - rwy'n gwrando. Byddaf yn gweithio i sicrhau bod y rôl yn ddylanwadol, parchus, ac yn bwysicaf oll, yn effeithiol."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, fod ymgyrch Mr Salmon yn wych.

'Camp wych'

"Dwi'n ei longyfarch ar ei rôl newydd. Mae'n gamp wych iddo ac i'r Blaid Geidwadol."

Ond dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, fod y ffaith fod cyn lleied wedi pleidleisio yn adlewyrchu ymgyrchu diflas a difywyd.

"Ni wnaeth yr ymgeiswyr gyflwyno unrhyw amcanion polisi ystyrlon ac eithrio'r hyn yr oedd yr awdurdod blaenorol yn ei wneud.

"Dydi pobl Dyfed Powys ddim eisiau hyn a dydi'r ddadl o blaid datganoli'r heddlu i'r Cynulliad erioed wedi bod yn gryfach."

Mae Jackie Roberts, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, wedi llongyfarch Mr Salmon.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r comisiynydd newydd.

"Bydd yr heddlu'n cydweithio'n agos â'r comisiynydd er mwyn mynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol - a rhoi tawelwch meddwl i'n holl gymunedau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol