Ethol Ian Johnston yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent

  • Cyhoeddwyd
Ian JohnstonFfynhonnell y llun, Ian Johnston
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Johnston yn Lywydd Cymdeithas Uwcharolygwyr yr Heddlu

Y cyn-blismon Ian Johnston sydd wedi cael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Gwent.

Bydd yn gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.

Roedd 'na bedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd, un Llafur, un Ceidwadol a dau ymgeisydd annibynnol.

Trechodd Hamish Sanderson, yr ymgeisydd Llafur, yn yr ail rownd a dim ond 14% bleidleisiodd yn ardal Gwent.

Mewn un orsaf bleidleisio yng Nghasnewydd doedd neb wedi pleidleisio.

Doedd y cyngor sir ddim yn fodlon dweud pa ward ond mae BBC Cymru yn deall mai ward Betws oedd hi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol