Alun Michael yn cael ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun MichaelFfynhonnell y llun, Llafur Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Michael yn gyn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref

Alun Michael ydi Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf De Cymru.

Cafodd ei ethol o flaen y tri ymgeisydd arall wedi'r cyfri ym Mhort Talbot ddydd Gwener.

Y comisiynwyr fydd yn gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.

Roedd 'na bedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd, ymgeisydd Llafur, Ceidwadol a dau ymgeisydd annibynnol.

Ymddiswyddodd Mr Michael fel AS De Caerdydd a Phenarth ar ôl gyrfa o 25 mlynedd yn San Steffan er mwyn ymgeisio ar gyfer y sedd.

Roedd ei fab Tal yn ymgeisio ar gyfer yr un swydd yn ardal Heddlu Gogledd Cymru ar ran y Blaid Lafur ond cafodd ei drech gan Gyn Gwnsler Cyffredinol Cymru, Winston Roddick.

Mae Mr Michael yn gyn-Ysgrifennydd Cymru, cyn-Wedinidog yn y Swyddfa Gartref a fo oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad.

Dywedodd mai ei flaenoriaeth fyddai gwneud yn siwr bod Heddlu De Cymru yn canolbwyntio adnoddau ar wneud cymunedau yn fwy diogel, heb droseddau, a sicrhau bod yr heddlu yn atebol i'r cyhoedd.

Fe wnaeth Steve Trigg, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru longyfarch Mr Michael.

"Dwi'n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda fo ar faterion a fydd yn effeithio ar ein haelodau a'r gymuned yn ehangach.

"Mae'n amser heriol i bawb ac yn enwedig i gymryd swydd fel yma ond dwi'n gwybod bod Mr Michael yn awyddus i wella'r ddarpariaeth plismona yn ein hardal."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol