Makaton a'r Gymraeg am y tro gyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfres newydd ar S4C yn cyflwyno iaith arwyddo i blant bach ag anghenion arbennig yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Mae'r rhaglen, Dwylo'r Enfys wedi ei hysbrydoli gan ferch fach o Wynedd, Enfys Thomas o Gaernarfon, sydd â Syndrom Down.
Mam Enfys, Ruth Thomas wnaeth grybwyll y syniad am greu rhaglen o'r fath gan ddefnyddio iaith Makaton.
Rhaglen ieithyddol yw Makaton sy'n defnyddio lleferydd, arwydd a symbol i annog cyfathrebu ac mae'n system sy'n cael ei defnyddio gan dros 100,000 o blant ac oedolion ym Mhrydain.
"Roedd Makaton yn hwb anferthol i Enfys" meddai Ruth Thomas.
"Ond roedd popeth oedd ar gael yn Saesneg. Roeddwn i eisiau i Enfys, a phlant Cymru, gael dysgu Makaton trwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd, "Dwi mor falch bod S4C wedi cefnogi'r syniad. Mae Dwylo'r Enfys yn rhaglen arbennig iawn ac mae'n rhaglen i bawb - nid yn unig i blant sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu neu ddysgu, ond eu teuluoedd, eu ffrindiau, yn yr ysgol, ond hefyd i fabanod a phlant bach wrth iddyn nhw ddysgu siarad.
"Mae Makaton wedi newid ein bywydau ni a dwi'n ffyddiog y bydd Dwylo'r Enfys rŵan yn gwneud yr un fath i deuluoedd Cymraeg."
Mae Nia Ceidiog, cynhyrchydd y rhaglen, yn cytuno ei bod wedi gweithio ar brosiect pwysig.
"Dyma'r tro cyntaf i ni weld plant ag anghenion arbennig yn cael y fath sylw ar S4C," meddai.
"Mae'n dangos Cymru a'i holl amrywiaeth ac mae'n rhywbeth amheuthun a hanesyddol yma yng Nghymru. "
Cadarnhaodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant ar S4C bod y cwmni am gyd-weithio gydag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i gynhyrchu adnoddau Makaton fydd ar gael i deuluoedd ac ysgolion yng Nghymru.
Bydd y rhaglen gan gwmni cynhyrchu Ceidiog yn cael ei darlledu yn wythnosol o Ragfyr 3.