Tywydd: Llai o broblemau na'r disgwyl dros y Sul

  • Cyhoeddwyd
llifogydd ar A55
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Iau roedd trafnidiaeth ar stop ar yr A55 ger Bangor

Mae'n ymddangos fod y rhan fwyaf o Gymru wedi osgoi y problemau y rhybyddwyd amdanynt o ganlyniad i law trwm nos Sadwrn.

Ond dywed y Swyddfa Dywydd bod rhagor o law i ddod.

Gallai hyn arwain at lifogydd mewn rhai mannau, gydag afonydd yn parhau yn uchel yn dilyn glaw trwm nos Iau.

Dywed y gwasanaethau brys mai nifer gymharol fechan o ffyrdd a chartrefi gafodd eu heffeithio gan lifogydd nos Sadwrn.

Ddydd Sadwrn roedd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio fod glaw trwm yn gwneud amodau gyrru yn anodd.

Yng Ngwent bu'n rhaid cau rhan o'r A48 yn ardal Casnewydd ohrwydd lliffogydd.

Mae disgwyl mwy o law nos Sul a dydd Llun.

Mae cwmni Western Power Distribution wedi rhoi staff ar alw oherwydd y rhagolygon gwael.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd fod un rhybudd llifogydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer yr Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer a nifer o rybuddion 'byddwch yn barod am lifogydd' led led Cymru.

Gellir gweld manylion llawn rhybuddion llifogydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, dolen allanol

Yng Ngwynedd, yn dilyn glaw trwm nos Iau mae'r cyngor sir wedi rhoi staff graeanu ar alw.

"Oherwydd y posibilrwydd o dywydd garw dros y penwythnos, a allai weld dŵr ar yr helwydd yn troi yn rhew, rydym wedi rhoi'r timau graeanu ar alw," meddai Gareth Roberts, aelod o Gabinet Gwynedd gyda Chyfrifoldeb am yr Amgylchedd.

"Byddwn yn annog gyrwyr i wrando ar adroddiadau am y tywydd cyn dechrau ar unrhyw daith, yn enwedig gyda'r hwyr, ac i gymryd gofal."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol