Ailgloddio ym mryniau Meirionnydd?

  • Cyhoeddwyd

Does dim cloddio am aur wedi bod ym mryniau Meirionnydd ers diwedd y 1990au.

Ond mae perchnogion newydd safle Clogau wedi dweud eu bod yn gobeithio ail agor rhan o'r gweithfeydd y flwyddyn nesaf.

Gallai hynny fod yn newyddion da i economi ardal Dolgellau.

Mae teulu Gethin Williams wedi ffermio ardal maes aur Dolgellau ers canrifoedd.

£100 miliwn

Yn ddiweddar fe werthodd ddarn o dir i gwmni Gweithfeydd Aur Cymru sydd â chynllun i ail ddechrau cloddio yno'r flwyddyn nesaf.

"Mae 'na lawer o dir ar ôl sydd heb gael ei gloddio...mae 'na ddigon o aur ar ôl ym Meirionydd," meddai Mr Williams, sydd hefyd yn cynrychioli ward Abermaw ar Gyngor Gwynedd.

"Hefo pris aur fel mae o heddiw rwy'n tybio fod 'na werth dros £100 miliwn o aur ar ôl yma."

Ond mae yna ddigon o rwystrau cyn cael at yr aur.

Yn fwyaf diweddar achos cyfreithiol sydd wedi rhwystro'r cwmni.

Anghydfod

Y mis diwethaf fe gafodd anghydfod rhwng Gweithfeydd Aur Cymru a chwmni arall oedd yn hawlio les ar y safle ei ddatrys yn y llys.

Bellach mae'r cwmni'n rhydd i fwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i geisio cael caniatâd cynllunio, trwydded arall gan y Goron i gloddio am aur a gwneud y gwaith Iechyd a Diogelwch angenrheidiol er mwyn ail gychwyn y gweithfeydd.

"Byddai'r gweithfeydd yn creu gwaith gyda chyflogau da," meddai Mr Williams.

"Rydym angen gwaith â chyflogau uchel fel bod pobl leol yn cael prynu eu tai a byw yn eu cymunedau a gwario eu cyflogau yn y siopau a thafarndai."

Mae Rhiannon Evans wedi cynllunio a gwneud gemwaith aur yn Nhregaron ers dros 40 mlynedd.

Prynodd hi'r cyflenwad olaf o aur i ddod o Feirionnydd.

'Potensial'

"Bydden i'n falch iawn o gael y cyfle i ddefnyddio aur Cymru pur unwaith eto achos mae cyn lleied ohono ar ôl fel na allai ddim ei ddefnyddio fel aur pur yn rhagor," meddai.

"Ond mae yna botensial yno oherwydd ei fod yn brin a bod galw amdano.

"Os byddan nhw'n ddigon ffodus i wneud y fenter dalu ei ffordd mae'n iawn ond mae yna gostau anferth wrth dynnu'r aur allan."

Mae aur Cymreig yn cael ei ddefnyddio mewn gemwaith ers canrifoedd.

Ers pan briododd y Fam Frenhines yn 1923 mae yna aur o Gymru wedi ei ddefnyddio mewn modrwyau ar gyfer priodasau brenhinol.

O'r un darn o aur y cafodd modrwyau Y Frenhines, Y Dywysoges Margaret, Y Dywysoges Frenhinol a'r Dywysoges Diana eu gwneud.

Daeth yr aur o gloddfa Clogau, Bontddu ger Dolgellau.

Fe gaeodd cloddfa Clogau ger Dolgellau ym 1998 a chloddfa Gwynfynydd ym 1999.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol