Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi £500m ar gyfer cynlluniau cyfalaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n benthyg £500m ar gyfer cynlluniau cyfalaf.

Bydd £300m ar gyfer troi Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn gwbl ddeuol erbyn 2020.

Y rhannau rhwng Hirwaun a'r gyffordd â'r A470 ac o'r A470 i Ddowlais Top fydd y rhai ola'.

Dywedodd gweinidogion y byddai hyn hefyd yn golygu swyddi yn y diwydiant adeiladu.

Bydd £200m ychwanegol ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a chynghorau'n derbyn hyd at £12m y flwyddyn am 30 mlynedd.

Byddan nhw'n gallu benthyg £200m fel y bydd rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn dod i ben yn 2018-19.

30 mlynedd

Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n ad-dalu'r £500m dros gyfnod o 30 mlynedd.

Brynhawn Mawrth cymeradwyodd Aelodau Cynulliad gyllideb £15.1 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd y bleidlais ar ôl i'r Blaid Lafur ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen i'r Blaid Lafur gael cytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn cymeradwyo'r gyllideb

Mae'r cytundeb yn golygu bod 'na £20 miliwn ychwanegol wedi ei roi i brentisiaethau ar gyfer rhai rhwng 16 a 24 oed y flwyddyn nesa'.

Bydd £10 miliwn o wariant cyfalaf wrth gefn dros y ddwy flynedd nesa' ar gyfer parc gwyddonol lle bydd arbenigedd prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Cynlluniau fforddiadwy

Ar ôl caniatáu am chwyddiant, mae'r gyllideb o £15.1 biliwn wedi ei thorri o dros 3% o'i chymharu â'r flwyddyn bresennol.

Penderfynodd gweinidogion beidio â gwneud newid mawr i'r gyllideb ar ôl i bwyllgor o ACau fynegi amheuaeth a oedd y cynlluniau yn fforddiadwy.

Yn ôl y pwyllgor cyllid, doedden nhw ddim wedi eu hargyhoeddi y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyddo i gadw o fewn eu cyllideb ac roedd pryder y byddai effeithiau ar adrannau eraill.

Dywedodd gweinidogion eu bod yn deall y pryderon am "gyflwyno agenda uchelgeisiol" ac y bydden nhw'n cadw golwg ar eu cynlluniau.

"Rydym wedi dod i'r canlyniad, ar y cyfan, fod neilltuo'r arian yn gywir fel ein bod yn gallu cyflwyno rhaglen y llywodraeth ac nad oes 'na dystiolaeth lethol sy'n awgrymu newid sylweddol," meddai llefarydd ar ran y pwyllgor.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod y cytundeb yn "un rhad" fyddai'n rhoi pwysau ar wasanaethau rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol, a wnaeth gytundeb gyda'r Blaid Lafur yn 2001, am fwy o arian ar gyfer addysgu plant o gefndir tlawd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol