Priodas hoyw: Eithrio'r eglwys
- Cyhoeddwyd
Yn gyfreithiol, ni fydd yr Eglwys yng Ngymru nac Eglwys Loegr yn cael cynnal priodasau cyplau o'r un rhyw, meddai Llywodraeth San Steffan.
Bydd cyrff crefyddol eraill yn cael yr hawl i ddewis cynnal prodasau o'r fath neu beidio ac mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr ond ddim yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller fod y ddeddfwriaeth yn diogelu a parchu enwadau crefyddol oedd yn dewis peidio â chaniatáu i gyplau o'r un rhyw briodi.
Dywedodd fod y ddwy Eglwys Anglicanaidd wedi "gwrththwynebu'n gryf" ac felly na fyddai'r ddeddf ydd yn eu cynnwys nhw.
Y bwriad yw cyflwyno'r ddeddf cyn yr etholiad nesaf yn 2015.
Nod y llywodraeth yw (a) peidio â gorfodi unrhyw enwad, weinidog neu offeiriad i gynnal gwasanaeth i gyplau o'r un rhyw a (b) peidio â gorfodi unrhyw enwad i ganiatáu priodasau rhwng cwpwl o'r un rhyw yn addoldy'r corff crefyddol.
Torri'r gyfraith
Byddai offeiriad neu weinidog yn torri'r gyfraith drwy gynnal gwasanaeth heb ganiatâd y corff llywodraethol.
Pwysleisiodd y gweinidog fod deddfwriaeth Ewrop yn diogelu rhyddid crefyddol.
Croesawodd llefarydd y Blaid Lafur, Yvette Cooper, y cyhoeddiad.
Mae Carwyn Jones wedi ategu safbwynt Ms Cooper ac felly hefyd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant. Mae Mr Bryant eisioes mewn partneriaeth sifil.
"Alla i ddim credu na fyddai unrhyw Gristion yn hapus i weld hyn," meddai. "Ond dyw cynlluniau'r llywodraeth ddim yn mynd yn ddigon pell."
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu ac felly hefyd ei ragflaenydd Cheryl Gillan.
Bydd aelodau Ceidwadol yn cael pleidleisio yn unol â'u cydwybod.