Archesgob yn beirniadu priodasau hoyw

  • Cyhoeddwyd
Archesgob Vincent Nichols
Disgrifiad o’r llun,

Archesgob Vincent Nichols

Mae pennaeth yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Prydain i ganiatáu priodasau hoyw.

Dywed Archesgob Vincent Nichols fod y Prif Weinidog David Cameron wedi cyflwyno'r newidiadau mewn ffordd arwynebol iawn.

Mae'n cyhuddo gweinidogion y llywodraeth o gam-ddehongli barn y cyhoedd ac o ymddwyn mewn ffordd Orwelaidd.

Yn ei offeren Noswyl Nadolig yn Rhufain, fe wnaeth y Pab Bened annog pobl i sicrhau fod ganddynt amser ar gyfer Duw yng nghanol eu bywydau prysur.

Dywedodd os nad oes yna le i Dduw yn eu bywydau, fydd dim lle chwaith ar gyfer bobl eraill, fel plant, dieithriaid a'r tlawd.

Yn ei neges Nadolig o, mae Archesgob Cymru wedi datgan bod ffydd yn neges y Geni ar gynnydd, a hynny o ganlyniad i frwdfrydedd plant ynglŷn â'r stori.

Mae'r Dr Barry Morgan yn dweud bod oedolion yn gallu dysgu gan blant ynglŷn â gwir ystyr yr Ŵyl Gristnogol.

Yn ei araith olaf o cyn ymddeol, fe wnaeth Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, gydnabod bod y bleidlais yn erbyn caniatáu i fenywod i ddod yn esgobion wedi bod yn niweidiol i Eglwys Lloegr.

Fe wnaeth o hefyd gyferio at y Cyfrifiad gan ddweud fod y canlyniadu yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl Prydain yn dal i ystyried eu hunain yn Gristnogion.

Fe wnaeth Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchedig Ronald Williams, hefyd gyfeirio at y cyfrifiad yn ei neges Nadolig.

"Mae data Cyfrifiad 2011, sy'n dangos fod dipyn dros hanner pobl Cymru yn ystyried eu hunain i fod yn Gristnogion, yn arwydd fod mwyafrif ein cenedl yn dal i fod yn awyddus i gyd-deithio gyda Duw," meddai."

"Os na wnawn ein rhan trwy fod yn effro i bob cyfle i'w helpu, mae peryg y gallwn golli'r hyn sy'n annwyl ac yn bwysig i fywyd y genedl Gymreig."

Yn ei haraith flynyddol fe wnaeth y Frenhines roi teyrnged i athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Prydaingan eu canmol ar ôl haf arbennig o chwaraeon.