Disgwyl penderfyniad ar barc solar

  • Cyhoeddwyd
Parc solar Rhos-y-Gilwen yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu gosod ar safle chwe erw yn Sir Benfro

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud penderfyniad ar gais i godi un o'r parciau solar mwyaf yng Nghymru yn ddiweddarach dydd Mercher.

Mae Stad Bodorgan am godi'r parc ar safle 70 erw ar yr ynys.

Bydd y cynllun yn creu digon o drydan ar gyfer 4,500 o gartrefi yn flynyddol, ac yn cysylltu â'r Grid Cenedlaethol drwy'r gwifrau presennol.

Mae swyddogion cynllunio yr ynys wedi argymell rhoi caniatad i'r datblygwr, New Forest Energy, i godi'r paneli ynni haul.

Fe fydd y safle yn defnyddio 64,000 o baneli solar i greu 15 MW (megawatt) o bwer.

Targedau

Er bod llai o bobl wedi gosod paneli solar ar eu cartrefi y llynedd, mae mwy o ddatblygiadau am barciau solar wedi cael sêl bendith awdurdodau lleol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Penfro oedd y cyntaf i gymeradwyo cais i godi parc solar yn Rhos-y-Gilwen ym mis Ionawr 2011.

Roedd y cynllun hwnnw - y mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd - yn cynhyrchu trydan ar gyfer y grid o fewn saith mis.

Ym mis Rhagfyr, dywedodd llywodraeth y DU bod ynni solar yn allweddol er mwyn cwrdd â thargedau ynni adnewyddol yn y dyfodol.

Y nod yw sicrhau bod 15% o ynni'r DU yn dod o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol