Llunio cais i ddatblygu fferm solar yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Loegr yn y broses o lunio cais cynllunio ar gyfer fferm solar yng Ngheredigion.
Mae'n debyg mai hwn fyddai'r prosiect mwyaf o'i fath yn y sir hyd yn hyn.
Bwriad cwmni Elgin Energy o Fryste yw sefydlu fferm solar 7 MegaWatt (MW) ar dir fferm ym Mlaenporth ger Aberteifi.
Y bwriad yw rhentu'r tir gan ffermwr lleol, Huw Kurys.
'Pori defaid'
Bydd Elgin Energy yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r fenter ym Mharc Aberporth ddydd Mawrth Rhagfyr 4.
Petai'r cais yn cael ei gymeradwyo, dywedodd Mr Kurys y byddai'r paneli solar yn cael eu gosod ar 18 hectar (40 erw) o dir ar ei fferm dros gyfnod o 25 mlynedd.
Ychwanegodd Mr Kurys y byddai'r paneli yn cael eu gosod hyd at wyth troedfedd uwchben y ddaear.
"Mae is-orsaf trydan yn agos at y tir, felly roedd hynny yn gwneud y lleoliad yn un deniadol i'r cwmni," meddai Mr Kurys.
"Byddai'r paneli solar yn cael eu gosod bum metr yn ôl o'r cloddiau ac fe fyddai pum metr rhwng pob rhes fyddai'n golygu y bydd defaid yn dal i allu pori ar y tir."
Dywedodd cynghorydd sir yr ardal, Gethin James, ei fod wedi cyfarfod ag ymghynghorydd cynllunio'r cwmni i drafod y cynllun.
'Ymateb pobl leol'
"Mae'n rhaid i ni aros i Gyngor Ceredigion dderbyn cais cynllunio ond bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhoi syniad i'r cyngor cymuned o ymateb pobl leol i'r cynllun."
Dywedodd cwmni Elgin Energy nad oedden nhw am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r mater tan i'r ymghynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal.
Y llynedd fe ddechreuodd parc solar cyntaf Cymru gynhyrchu trydan ar stad Rhosygilwen yn Sir Benfro.
Cafodd bron i 10,000 o baneli solar eu mewnforio o'r Unol Daleithiau a'u gosod mewn 12 rhes ar gae chwe erw.
Cafodd cynllun 6MW yn Ffos Las hefyd ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Gâr yn 2011.
Ym mis Medi eleni penderfynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Benfro gymeradwyo ceisiadau am ddau barc solar o fewn y sir.
Bydd fferm solar yn Mathri ger Hwlffordd yn gallu cynhyrchu 7.5MW o ynni ar eu cryfaf ar 17 hectar o dir, ac yn cael eu gosod mewn rhesi saith troedfedd uwchben y ddaear.
Bydd y llall yn St Florence, ger Dinbych-y-Pysgod dros ardal o 10.7 hectar yn gallu gynhyrchu 4.96 MW o ynni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012