'Niwed enfawr' wrth ddiddymu CBAC
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n gyfrifol am oruchwylio arholiadau yng Nghymru wedi beirniadu'r modd y mae'r Gweinidog Addysg am ei ddisodli.
Yn ôl CBAC, fe allai Llywodraeth Cymru wneud niwed enfawr i oruchwyliaeth cymwysterau yn y dyfodol.
Mae dyfodol CBAC wedi bod yn ansicr ers ail farcio arholiadau TGAU y llynedd.
Cyn y Nadolig cyhoeddodd Leighton Andrews ei fod am greu corff newydd, Cymwysterau Cymru, i ddod yn lle CBAC.
Roedd hwn yn un o argymhellion Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14-19 oed yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â rheoleiddio arholiadau, dywedodd Mr Andrews ei fod am i Gymwysterau Cymru ddyfarnu cymwysterau hefyd.
'Blaenoriaeth'
Ond mewn llythyr ddaeth i law BBC Cymru, mae prif weithredwr CBAC Gareth Pierce yn dweud y gallai sefyllfa o'r fath wneud "niwed enfawr", ac y dylai'r broses fod yn fwy graddol.
Mae Mr Pierce yn cynnig amserlen 12 mis i sefydlu Cymwysterau Cymru gan rybuddio bydd y gwaith ychwanegol i'w wneud yn gorff sy'n dyfarnu cymwysterau - sy'n cael ei wneud gan CBAC ar hyn o bryd - yn ymwneud â "materion gwahanol iawn".
"Yn anffodus nid yw datganiadau a dogfennau Llywodraeth Cymru sydd wedi dod i'r amlwg yr wythnos hon yn cynnig llawer o sicrwydd bod dod i'r afael â'r model rheoleiddio yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth," meddai.
Ychwanegodd na fyddai system fydd yn rhoi pwerau rheoleiddio a dyfarnu cymwysterau i Gymwysterau Cymru mewn lle tan o leiaf 2015 ac "efallai nid hwn fydd y model gorau'r pryd hynny".
Mae Mr Andrews wedi trydar bod y newidiadau er lles staff CBAC ac "y bydd Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio a dyfarnu cymwysterau".
Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod CBAC yn gwrthod wynebu'r hyn oedd am ddigwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012