Gofal babanod: 'Ailystyriwch y penderfyniad'
- Cyhoeddwyd
Mae tri chorff meddygol am y tro cynta' wedi galw ar fwrdd iechyd i ailystyried penderfyniad i anfon babanod newyddanedig sydd angen gofal dwys dros y ffin.
Dywedodd y Gymdeithas Feddygol, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Bydwragedd eu bod yn anfodlon.
Bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw symud gofal gwasanaethu gofal dwys babanod i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
Byddai symud y gwasanaeth gofal dwys yn golygu cau unedau yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
'Gwrando'
Dywedodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys: "Mae angen i'r Gweinidog Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymunedol wrando ar y bobl sy'n darparu'r gwasanaeth.
"Ar sail yr hyn y mae ein haelodau yn ei ddweud does dim dadl hyd yn hyn i symud gwasanaethau.
"Rydym yn disgwyl i'r gweinidog ymyrryd ..."
Mae Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd y Gymdeithas Feddygol yng Nghymru, wedi dweud: "Rydym yn galw ar y bwrdd iechyd i wrthdroi eu penderfyniad.
"Does dim rheswm pam na all y gwasanaethau hyn fod yn gynaliadwy yn y gogledd.
"Dyw'r gwasanethau yno ddim yn waeth. Maen nhw o'r safon ucha'."
Dywedodd Helen Rogers, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru: "Mae ein haelodau'n teimlo nad oes neb yn ymateb i'r pryderon.
"Ar hyn o bryd mae 'na fwy o gwestiynau nac atebion.
Safonau
"Os yw gwasanaethau'n cael eu symud o un wlad i'r llall, mae'r effaith yn fawr ar fenywod a'u teuluoedd."
Dywedodd eu bod yn fodlon codi'r mater â'r gweinidog.
Dadl y rheolwyr yw nad yw'r unedau presennol yn dilyn safonau Prydeinig o ran darparu gofal.
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.
Yn ogystal â'r newid i wasanaeth gofal dwys babanod, roedd penderfyniad dadleuol i gau ysbytai cymunedol Blaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2012