Llong adenydd yn taro'r llawr

  • Cyhoeddwyd
Ciudad de CadizFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ciudad de Cadiz yn un o dair llong sy'n cludo adenydd o Frychdyn

Mae llong sy'n cludo adenydd o ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, i Ffrainc wedi taro'r llawr ar Lannau Dyfrdwy mewn gwyntoedd cryfion.

Mae'r criw o 23 ar fwrdd y Ciudad de Cadiz yn ddiogel er i ymgais i rhyddhau'r llong dros nos ddydd Iau.

Dywed Gwylwyr y Glannau nad yw'r llong mewn perygl wedi'r digwyddiad ger porthladd Mostyn am tua 1:45pm ddydd Mercher.

Dywedodd Airbus nad yw hwn yn "fater o ddiogelwch" ac nad oedd "unrhyw beth i bryderu amdano".

Deellir bod y llong yn disgwyl i fynd i mewn i'r porthladd er mwyn codi adenydd a gafodd eu gwneud yn ffatri Airbus er mwyn eu cludo i ffatri adeiladu'r cwmni yn Toulouse yn Ffrainc.

Mae'r llong yn un o dair sy'n cael eu defnyddio i gludo adenydd awyren yr Airbus A380.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau yn Lerpwl bod asiant y llong wedi galw dwy long tynnu mewn ymgais i ail godi'r llong o'r llawr wrth i'r llanw uchel gyrraedd rhwng hanner nos a 1:00am fore Iau.

Mae tair llong dynnu bellach wedi'u clymu i'r Ciudad de Cadiz, ac er i'r ymgais gyntaf fethu mae'r llongau yn aros yn eu lle er mwyn gwneud ymgais arall pan ddaw'r llanw uchel nesaf yn ddiweddarach ddydd Iau.

Does dim badau achub wedi cael eu galw gan y llong.

Roedd gwyntoedd yn hyrddio ar gyflymder o 52 not pan ddaeth y llong yn rhydd o'i hangor y tu allan i'r porthladd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol