Cynllun £1.25m i ddarlledu cyfarfodydd cyngor arlein
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o gynghorau yn bwriadu darlledu eu cyfarfodydd ar-lein i alluogi trethdalwyr i wylio'r trafodaethau yn eu cartrefi.
Mae £1.25m wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru i osod cyfarpar darlledu mewn siambrau cynghorau i "wella democratiaeth leol".
Mae Cyngor Sir Fynwy yn awr yn gwario £85,000 ar gyfleusterau darlledu dros y we yn eu pencadlys newydd ym Mrynbuga.
Mae Cyngor Powys eisoes wedi darlledu sawl cyfarfod ar-lein ac mae un cyfarfod ynghylch cynllun fferm wynt wedi cael ei wylio 10,000 o weithiau ar-lein.
Cyllid
Yn awr mae cynghorau eraill yng Nghymru wedi datgan eu bod am wneud eu cyfarfodydd yn fwy agored i'r cyhoedd drwy ddarlledu ar-lein.
Ac mae'r cyfarpar a ddefnyddir yn golygu gall cynghorwyr fynychu cyfarfodydd o bell drwy ddefnyddio cysylltiadau rhyngweithiol a chyfrifiadur.
Cyhoeddwyd y byddai'r cyllid ar gael gan y Gweinidog Cymunedau a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant.
"Mae datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu mewn gwlad ddemocrataidd fodern yn golygu y dylai aelodau'r cyhoedd weld sut y mae penderfyniadau sy'n effeithio eu bywydau bob dydd yn cael eu gwneud," meddai.
O bell
Gofynnodd BBC Cymru i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru am eu cynlluniau ar gyfer darlledu cyfarfodydd ar-lein.
Dywedodd cynghorau Ceredigion, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen eu bod yn ystyried darlledu eu cyfarfodydd ar-lein.
Cafodd un o gyfarfodydd cyngor Powys ei ddarlledu ar-lein am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2011 pan gafodd cyfarfod am gynlluniau fferm wynt gael ei wylio 1,500 o weithiau cyn i drafodaethau eraill ar y pwnc gael eu gwylio ar-lein 3,000 a 10,000 o weithiau.
Mae Cyngor Ynys Môn yn gosod darllediadau clywedol o'u cyfarfodydd cynllunio ar-lein.
Dywed Cyngor Sir Fynwy fod ganddynt y dechnoleg i alluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd o bell.
Mae dirprwy arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Bob Greenland, wedi cyflwyno dwy eitem i gyfarfodydd o bell gan gynnwys un tro pan oedd yn Salt Lake City yn nhalaith Utah yn America.
Dywedodd rhai o'r cynghorau eu bod yn ail-ystyried polisïau fyddai'n galluogi i'w cyfarfodydd gael eu darlledu neu gael eu gosod ar wefannau cymdeithasol fel Twitter.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012