Plant 'angen gwybod am beryglon y we'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn defnyddio gliniadurFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Keith Towler fod angen i blant wybod beth yw'r ffiniau wrth ddefnyddio'r we

Mae Comisiynydd Plant Cymru'n dweud bod angen i oedolion wneud mwy i sicrhau bod eu plant yn ddiogel wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Yn ôl Keith Towler, mae pobl ifanc yn "yn gwybod llawer mwy" nag y mae eu rhieni'n sylweddoli weithiau, ond eu bod angen deall beth yw'r ffiniau.

Roedd yn lansio prosiect ymchwil ar Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r peryglon i blant.

Bydd y prosiect yn edrych ar y modd y mae plant yn defnyddio'r we a'r cyfryngau digidol.

Mae'r comisiynydd yn cydweithio â mudiad nid-er-elw Wise Kids, sy'n hyrwyddo defnydd diogel a newydd o ddefnyddio'r rhyngrwyd, ynghyd â'r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol.

"Dyw plant a phobl ifanc ddim yn gweld llawer o wahaniaeth rhwng eu bywydau ar-lein a'u bywydau go iawn," meddai Mr Towler wrth BBC Cymru.

"Mae'r un peth iddyn nhw ac mae'r cyfleoedd mae'r rhyngrwyd yn ei gynnig yn eu cyffroi ac weithiau mae rhieni'n poeni am yr hyn mae eu plant yn ei weld."

'Her aruthrol'

Dywedodd Mr Towler ei fod yn siarad gyda phlant mewn llawer iawn o sefyllfaoedd a'u bod yn "dal i fwynhau chwarae'r tu allan cymaint ag erioed".

Ychwanegodd fod angen i bobl sylweddoli fod y rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd addysgu gwych ac mae'r peth pwysig oedd sicrhau fod plant yn gallu mynd ar y we yn ddiogel.

Dywedodd ei fod yn "her aruthrol" i rieni a gofalwyr.

"Mae ychydig fel croesi'r ffordd, rydych chi'n ceisio dysgu eich plant am y ffordd orau i groesi'r ffordd. Rydym angen dysgu'n plant am y ffordd orau o ddefnyddio'r adnodd gwych yma.

"Rwy'n credu fod gormod o rieni'n ofni'r rhyngrwyd ac am fod ganddynt gymaint o ofn eu bod yn dweud nad ydyn nhw'n ei ddeall".

Ffiniau

Roedd y Comisiynydd hefyd yn canmol Hwb, yr adnodd dysgu cyfrifiadurol sydd, meddai, yn amddiffyn plant sy'n defnyddio'r we yn yr ysgol.

Dywedodd Mr Towler: "Mae'n rhaid i ni gael rhieni a gofalwyr i sylweddoli fod eu plant yn gweithredu yn y byd digidol. Maent i gyd yn rhedeg o gwmpas y lle gyda chyfrifiaduron yn eu dwylo'r dyddiau hyn, nid dim ond ffonau ydyn nhw.

"Maen nhw'n gallu edrych ar beth bynnag maen nhw eisiau, pryd bynnag maen nhw eisiau ac mae angen i rieni sylweddoli hynny."

"Rydym angen sicrhau bod y profion a'r diogelwch cywir mewn lle, ac mae plant o hyd eisiau gwybod beth yw'r ffiniau, ac ein swydd ni yw egluro hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol