Cynnydd yn nifer y cwynion am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Peter Tyndall
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Peter Tyndall fod anfodlonrwydd ar gynnydd

Mae BBC Cymru wedi darganfod bod 'na gynnydd mawr iawn, 255%, wedi bod yn nifer y cwynion am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae nifer y cwynion wedi cynyddu o 191 yn 2006/2007 i amcangyfrif o 680 ar gyfer 2012/2013.

Fe fydd rhaglen Week In Week Out nos Fawrth yn datgelu cynnydd yn nifer y cwynion gafodd eu gwneud i Swyddfa Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros gyfnod o chwe blynedd.

Mae hi'n bryd gwneud newidiadau er mwyn gwella'r gwasanaeth iechyd a'i wneud yn fwy diogel yn ôl un o Fyrddau Iechyd Cymru.

Mae hynny'n golygu y gallai rhai ysbytai gau ac eraill yn newid y modd maen nhw'n cynnig gwasanaethau.

Fe ddaw'r rhaglen wedi wythnosau o gyhoeddiadau am newidiadau dadleuol i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd, a chanolbarth a gorllewin Cymru.

Balchder

Yn y rhaglen mae Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, yn mynnu nad oes unrhyw glaf wedi cwyno wrth iddi hi ymweld ag ysbytai.

"Mae ''na reolau yn eu lle er mwyn i bobl wybod sut i gwyno ac os oes 'na rywbeth wedi mynd o'i le mae ganddyn nhw'r hawl i gwyno," meddai.

"Mae 'na wasanaeth iechyd yng Nghymru y dylem fod yn falch ohono a dwi wedi cael llond bol ar y rhai sy'n mynnu ei feirniadu.

"Dwi ddim yn meddwl i mi ddod ar draws yr un claf sydd wedi bod yn feirniadol."

Ond mae'r Ombwdsman yn dweud bod 'na gynnydd cyson yn nifer y cwynion maen nhw'n eu derbyn.

"O'r cwynion sy'n dod i law rydym yn tueddu i gadarnhau dros eu hanner," meddai Peter Tyndall.

"Mae hyn yn rhannol oherwydd ymwybyddiaeth o'r swyddfa ond hefyd mae 'na gynnydd yn yr anfodlonrwydd gyda safon y gofal sy'n cael ei roi i gleifion.

"Mae gennym ni bryderon gwirioneddol am safon y monitro a'r modd o gadw dogfennau.

"Does dim modd parhau gyda'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig...oni bai bod 'na newid fe fydd gwasanaethau yn dod yn llai diogel."

Mae'r dadlau yn parhau hefyd am newidiadau i wasanaethau iechyd, wrth i Gynghorau Iechyd Cymunedol Cymru drafod a fyddan nhw'n gofyn i'r Gweinidog Iechyd ystyried y cynlluniau dadleuol i ail-strwythuro'r gwasanaeth.

Mae 'na bryder hefyd fod y broses o ymgynghori gyda'r cyhoedd yn costio cannoedd ar filoedd o bunnau.

'Charades'

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi gwario £125,000 ar y broses o ymgynghori gyda'r cyhoedd ac mae Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda wedi cymharu'r broses â charade.

"Dyma sut mae aelodau'r cyhoedd wedi disgrifio'r sefyllfa," meddai Tony Wales.

Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Darren Miller, yn poeni bod y broses yn wastraff arian.

"Mae angen i Swyddfa Archwilio Cymru edrych a oedd yr ymgynghori cyhoeddus yma yn werth am arian?

"Rydym yn gwybod bod cannoedd ar filoedd o arian y trethdalwyr yn cael ei wario ar geisio barn y cyhoedd....ac mae'n ymddangos i'r mwyafrif bod eu barn wedi ei anwybyddu'n llwyr.

"Dydi hyn ddim yn ddefnydd da o arian y trethdalwr."

Ond mae'r Byrddau Iechyd yn mynnu eu bod nhw wedi gwrando ar bryderon pobl ond bod yn rhaid gwneud newidiadau.

Week In Week Out, BBC One Wales am 10.35pm nos Fawrth Chwefror 12.