Asiantaeth yn atal gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n ymchwilio i gamlabelu cynnyrch cig, wedi atal gwaith mewn dau safle, un yng Nghymru a'r llall yng Ngorllewin Sir Efrog.
Aeth swyddogion yr asiantaeth a'r heddlu i Farmbox Meats yn Llandre, Ceredigion, a Lladd-dy Peter Boddy yn Todmorden.
Maen nhw'n ymchwilio i honiadau bod cig ceffyl wedi ei werthu fel cig eidion ar gyfer byrgyrs.
Dywedodd yr asiantaeth eu bod yn credu bod y lladd-dy yng Ngorllewin Sir Efrog yn cyflenwi cyrff ceffylau i'r safle yng Nghymru.
Mae'r heddlu a swyddogion yr asiantaeth wedi mynd â chig a gwaith papur, gan gynnwys rhestrau cwsmeriaid.
'Sioc'
Dywedodd Andrew Rhodes, cyfarwyddwr gweithrediadau'r asiantaeth: 'Gorchmynnais i archwiliad o'r holl ladd-dai yn gysylltiedig â chig ceffyl wedi i'r mater godi yn Ionawr.
"Dwi wedi cael sioc am fod defnyddwyr yn cael eu camarwain.
"Dwi wedi dod â'r gwaith cynhyrchu yn y ddau safle i ben wrth i ni ymchwilio."
Mae'r Gweinidog Amaeth Alun Davies wedi dweud: "Mae gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn hanfodol yn y gadwyn gyflenwi.
"Byddai'n warthus pe bai'r honiadau'n cael eu profi.
"Mae Llywodraeth Cymru, DEFRA a'r asiantaeth yn cydweithio'n agos er mwyn delio â'r mater yn gyflym ac yn benderfynol."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd Owen Paterson: "Mae hyn yn ysgytwol.
"Mae'n hollol annerbyniol fod cig ceffyl yn cael ei werthu fel cig eidion.
"Dwi'n disgwyl y bydd camau cyfreithiol yn erbyn unrhywun sy'n ymwneud â hyn."
Dywedodd perchennog Farmbox Meats, Dafydd Raw Rees bod y safle yn drwyddedig ac wedi bod yn weithredol ers tair blynedd.
"Dwi wedi bod yn torri cig ceffyl ers tair wythnos a hanner," meddai.
"Mae'r cig yn dod o Iwerddon. Does dim byd yr y' ni'n ei wneud yma sydd ddim yn cael ei ganiatau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013