'Na' i gau llyfrgelloedd yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor craffu Cyngor Wrecsam wedi gwrthod yr egwyddor o gau llyfrgelloedd, wrth drafod adroddiad ar y gwasanaeth llyfrgelloedd ddydd Mercher.
Mae pryderon y gallai tri o lyfrgelloedd gael eu cau yn y dyfodol wrth i'r Cyngor geisio gwneud arbedion ariannol.
Gallai llyfrgelloedd Brymbo a Gresffordd gael eu cau, ynghyd ag un o dair llyfrgell arall sydd wedi eu lleoli yng Nghefn Mawr, Rhosllannerchrugog a Rhiwabon.
Ond bydd pwyllgor craffu'r cyngor nawr yn cyflwyno argymhelliad ar gyfer bwrdd gweithredol y cyngor fydd yn cwrdd ym mis Mawrth i beidio â chau llyfrgelloedd oni bai bod cyfleusterau amgen ar gael mewn adeiladau gerllaw.
Mae enwau yn cael eu casglu ar ddeisebau yn ardal i wrthwynebu unrhyw fwriad i gau llyfrgelloedd yn y cylch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol