Yr Uchel Lys yn gwrthod cais i newid canlyniadau Saesneg TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae cais dadleuol gan arweinwyr ysgolion, undebau athrawon a chynghorau i newid graddau TGAU wedi ei wrthod gan yr Uchel Lys.
Mae'n golygu na fydd graddau miloedd o ddisgyblion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a rhai yng Nghymru, ddim yn cael eu newid.
Roedd tua 10,000 o ddisgyblion wedi methu llwyddo i gael gradd C - y radd sydd ei angen er mwyn mynd ymlaen i addysg bellach a gwaith.
Cafodd papurau TGAU yng Nghymru eu hail-farcio gan arwain at ffrae wleidyddol.
Fe ddaeth y cais wedi i gannoedd o ysgolion Lloger fynnu adolygiad am nad oedd y graddau yn cyfateb yng Nghymru a Lloegr wedi'r ail-farcio.
Yn y cyfamser mae'r corff arholiadau CBAC wedi codi pryderon y gallai'r sefyllfa welodd ail-raddio miloedd o bapurau TGAU Saesneg yng Nghymru'r llynedd godi eto eleni.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n sicrhau na fydd sefyllfa debyg yn codi eto a bod sylwadau'r Cydbwyllgor yn rhai hurt.
Fe gododd y dryswch y llynedd ar ôl honiadau bod yr arholiadau wedi eu marcio yn rhy llym yng Nghymru, Lloger a Gogledd Iwerddon.
Roedd yna ddyddiau anodd i filoedd o ddisgyblion TGAU yng Nghymru'r llynedd.
Wedi eu siomi gyda'u canlyniadau iaith Saesneg, roedd 'na drin a thrafod a fyddai ail-raddio yn golygu marciau uwch?
Yn y pen draw, i dros i 2,000 ohonyn nhw, mi gododd y radd.
Mae CBAC yn dweud eu bod nhw'n aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru fel mater o frys na all yr un sefyllfa godi eleni.
Wrth ymateb mi ddywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n sicrhau na fydd yna ail-adrodd o ddigwyddiadau'r llynedd.
"Fel mae CBAC yn ymwybodol rydym yn cymryd camau i sicrhau na fydd y sefyllfa yn ail-adrodd eleni," meddai llefarydd.
Ychwanegodd na fyddan nhw'n caniatau i'r un fethodoleg a ddefnyddir yn Lloegr gael ei ddefnyddio i bennu canlyniadau ymgeiswyr yng Nghymru."
Dydi'r trafodaethau yma ddim yn cael effaith ar yr arholiadau eu hun.
Yr wythnos diwethaf fe wanaeth Gweiniodg Addysg Cymru, Leighton Andrews, groesawu penderfyniad i gadw'r arholiad TGAU yn Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012