Bron i 190 o achosion o'r frech goch yn ardal bwrdd iechyd Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r frech ei hun yn ymddangos o fewn ychydig ddyddiau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad wrth iddyn nhw ymchwilio i bron 190 o achosion o'r frech goch yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Ers i'r achosion ymddangos ym mis Tachwedd 2012, mae cyfanswm o 189 o achosion wedi dod i'r amlwg mewn pobl sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Mae achosion wedi eu nodi mewn 32 o ysgolion cynradd ac uwchradd a meithrinfeydd ar draws yr ardal, gydag 20 achos yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig.
Mae'r Bwrdd Iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i drin yr achosion.
'Yn gallu lladd'
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae nifer yr achosion yr ydym wedi eu gweld yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn destun pryder i ni.
"Ni allwn orbwysleisio bod y frech goch yn haint sy'n gallu lladd neu adael cleifion gyda chymhlethdodau parhaol gan gynnwys niwed i'r ymennydd, ac mai'r unig fodd o'i atal yw dau ddos o'r brechiad MMR.
"Gan fod plant wedi gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd y frech goch, rydym yn pryderu mai dim ond mater o amser fydd hi tan i rywun farw.
"Y bobl sy'n fwyaf agored i ddal y frech goch yw plant o oed ysgol sydd heb gael y ddau ddos o MMR.
"Rydym yn amcangyfrif bod dros 8,500 o blant mewn perygl o gael y frech goch yn ardal Bwrdd Iechyd ABM oherwydd eu statws MMR."
Bydd llawer o bobl sy'n dal y frech goch yn cael tymheredd uchel, peswch, llygaid coch yn dyfrio a theimlo'n sâl yn gyffredinol i ddechrau.
Mae'r frech ei hun yn ymddangos o fewn ychydig ddyddiau ar eu hwynebau ac yn lledu dros weddill y corff dros gyfnod o ddyddiau.
Bydd pobl yn heintus o'r diwrnod cyn y symptomau cyntaf hyd at bedwar neu bum niwrnod wedi i'r frech ymddangos.